STORI XXI
"NID MA MASILO GLAN YR AFON YDWYF FI"
Y MAE hon erbyn heddiw yn ddihareb mewn rhan helaeth o Affrica. A gwlad ryfedd am ddiarhebion ydyw Affrica, ac yn wir holl wledydd y Dwyrain.
Pan geisia'r dyn gwyn ddysgu iaith gwlad yn y Dwyrain, cred mai gwaith cymharol hawdd yw hynny. Ond arhosed hyd nes dod at yr idiomau a'r diarhebion, yna dechreua sylweddoli gyn lleied yw ei wybodaeth o'r iaith, a hefyd o ddull y bobl y mae yn byw yn eu mysg, o feddwl, ac o egluro eu meddyliau.
Nid yn unig y mae'r diarhebion yn lluosog iawn, ond y mae pob un yn ddarlun, a'r darlun, pe gellid ei olrhain hyd at y gwreiddiol, yn egluro rhyw stori a ddywedwyd filoedd o weithiau o amgylch tân min yr hwyr yn Affrica.
Tybed a oes dihareb Gymraeg sydd yn golygu'r un peth a "Nid Ma Masilo glan yr afon ydwyf