fi"? Diddorol fyddai chwilio, ac wedi dyfod o hyd iddi, dilyn ei hanes os yn bosibl hyd at y gwreiddiol. Yr wyf yn cydnabod ei fod yn haws gwneuthur hyn yn Affrica nag yng Nghymru, am mai pobl gyntefig yw pobl Affrica, ac y mae hanes eu bywyd bron i gyd yn eu straeon. Serch hynny, y mae gennym ninnau lawer ohonynt, ac nid ofer fyddai holi a chwilio dipyn yn eu cylch.
Er mwyn inni ddeall stori Ma Masilo yn iawn dylid dywedyd rhai pethau am y wlad.
Yn un peth, y mae pawb yn Affrica yn berchen ar ei dŷ neu ei fwthyn ei hun. Nid oes yno neb yn rhentu tŷ. Tŷ crwn ydyw, y muriau wedi eu gwneuthur o goed a gwelltglas neu fambŵ, y tô o ddail neu welltglas, a'r llawr o bridd. Nid yn unig y mae pob pen teulu yn perchenogi ei dŷ: ond efô hefyd sydd wedi ei adeiladu. Peth arall i'w gofio yw, mai lle iawn am law yw Affrica. Nid ydym yn golygu oddiwrth hynny ei bod yn glawio'n ddibaid yno.
Weithiau y mae'r fath sychter nes bod newyn yn y wlad. Ond pan ddaw'r glaw: wel, fe ddaw! A druan o'r hwn a ddelir ganddo. Gyda'r glaw bydd mellt a tharanau. A chyda llaw, y mae gan frodorion Affrica rhyw syniadau rhyfedd iawn am fellt a tharanau.