Cofier nad cymryd arni daranu y mae hi yn Affrica. Disgynna'r mellt mor aml a chyflym, a rhua'r daran mor ofnadwy nes taro dynion i lawr. Pan ddigwydd hyn, rhyddhânt eu gwisg— hynny o wisg sydd ganddynt—a gorweddant i lawr hyd nes myned o'r storm heibio. Credant mai math o ddafad yw'r mellt a'r daran—dafad yn disgyn o'r uchelder i'r ddaear—a bod ganddi edafedd tebyg i edafedd pryf copyn yn dyfod allan o'i chynffon. Wrth iddynt ryddhau eu gwisg a'i hysgwyd yn ôl a blaen, credant eu bod yn torri'r edafedd ac yn rhwystro'r mellt a'r daran i ddychwelyd i'r uchelder. Pan ofynnir iddynt a oes rhywun wedi gweled y ddafad, chwarddant, ond credant ynddi yr un pryd. Gan gofio am y glawogydd a'r mellt a'r taranau, a'r drefn fod pob pen teulu brodorol yn Neheudir Affrica yn perchen ei dŷ, awn ymlaen i adrodd y stori am "Nid Ma Masilo glan yr afon ydwyf fi."
Ers talwm yr oedd hen wraig o'r enw Ma Masilo yn byw yn Neheudir Affrica, ac un diwrnod penderfynnodd godi tŷ ar lan afon. Un o nodweddion deheudir Affrica yw sychter. Gan mai gwely'r afon yn unig a welodd Ma Masilo, ni feddyliodd am y llifogydd a ddeuai pan ddisgynnai'r