Pobl y bythynnod gan fwyaf sydd yn y llyfr hwn. Ystyrrir hwynt yn is na phobl y tai. Nid ydynt cynddrwg ag y paentir hwynt. Dywedodd un awdur "Anifeiliaid ydynt." Wrth gwrs—anifeiliaid ydym ninnau hefyd; os anifeiliaid yn unig ydynt, y maent yn ddeallus a chyfrwys dros ben. Awn am dro i anialwch y Kalahari. Chwiliwch am y lle yn eich llyfrau ysgol. Yr ydych yn sicr o ddyfod o hyd iddo. Y mae ar y map—map o Affrica, bid sicr.
Pobl y Kalahari yw'r enw o roddir ar frodorion yr anialwch hwn. Dichon nad oes pobl is na'r rhain yn y byd. Profa'u hiaith hynny i ryw raddau. Y mae eu geiriau'n fyr, gyda llawer o gliciau, ac yn wan ymhob ystyr ond yn y ferf. Ebe rhywun sydd yn eu hadnabod yn dda:—"Y mae'n amheus gennyf a allant gyfrif mwy na thri."
Ond y mae eu harferion a'u dull o fyw yn profi hynny'n amlycach. Bwytânt unrhyw beth—llygod, chwilod, nadroedd, creaduriaid marw, ŵyau drwg—unrhyw beth. Nid yw eu tai ond cysgod yn unig, ac mor aflêr a chwt mochyn.
Y mae'r pentrefi ymhell oddiwrth ddwr, weithiau gymaint ag ugain milltir. Diogelwch yw'r rheswm am hynny Pan groesir yr anialwch gan ddieithriaid, chwiliant am ddwr. Gŵyr y rhai cyfarwydd