Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dawel a heddychlon. Nid oedd rhyfeloedd na chwerylon, na gweiddi na dagrau gofidus.

Weithiau clywid swn, pan oedd yn taranu, a phan chwibanai'r gwynt yn y coed ac y disgynnai'r glaw mawr ac y rhuthrai'r afonydd i gyfeiriad môr. Dyma'r unig sŵn a glywid, oblegid nid oedd eliffant i chwythu ei drwyn mawr na llew i ruo, na chŵn gwyllt i gyfarth, na hyd yn oed y gog i ganu yn y gwanwyn.

Un diwrnod yn y cyfnod hwnnw digwyddodd peth rhyfedd iawn, a phe byddai rhywun yn byw ar y ddaear y pryd hynny, gwelsai raff fawr yn cyrraedd o'r uchelder hyd at y ddaear, a rhyw fod a chanddo goesau a breichiau yn dyfod i lawr y rhaff. Daeth i lawr ac i lawr ac i lawr hyd nes cyrraedd y ddaear. Dyma'r dyn cyntaf.

A'r peth cyntaf a wnaeth wedi cyrraedd y ddaear oedd eistedd i lawr, fel y gwna holl blant dynion hyd heddiw. Eisteddodd i lawr am ei fod wedi blino, a'i goesau yn rhy wan i'w gario hyd nes eu hymarfer.

Ni phetrusai ddim ynghylch yr hyn a wnai. Ni chwibanai, ni chanai, ac ni siaradai, oblegid nid oedd neb ond efe yn y byd.

Yr oedd mewn gwirionedd yn hollol ddifater ynghylch popeth. Ni feddyliodd hyd yn oed am