Ond wedi hir syllu, gwelodd fod tebyg iddo ef ei hun yn disgyn ar y rhaff. "Pwy all hwn fod meddai? Tybed bod y Bod Mawr wedi gyrru rhywun i'm lladd neu i'm nghymryd yn fy ôl i'r man yr oeddwn cyn dyfod yma?
Ni allai ffoi. Yr oedd fel pe wedi ei syfrdanu; a chyn hir daeth y bod arall yn ddigon agos iddo allu clywed sŵn, a gwaeddodd y bod
"Deliwch fi, 'rwy'n syrthio." Ar hyn rhuthrodd y dyn ymlaen a daliodd y bod, ond ni ddiolchodd iddo am ei drafferth. Yn lle hynny chwarddodd am ei ben ac meddai: Yr hen greadur gwirion, nid oeddwn yn syrthio, Gwaeddais er mwyn gweled beth a wnaet ti."
Pan ddaeth y dyn ato ei hun, gofynnodd i'r bod, "Beth a wnaeth i ti ddyfod yma?" ac ebr yntau, Anfonodd Duw fi, a dywedodd y deuwn o hyd i fod unig: a dyma ti."
"Y mae'n wir fy mod yn unig" ebe'r dyn, ac yr oeddwn yn teimlo'n annifyr iawn yn y tywyllwch." "Tywyllwch?" ebe'r bod. "Beth yw hynny?" "O! aros a chei wybod," atebai'r dyn. Machludodd yr haul yn gynnar a daeth ofn ar y bod newydd oblegid ni wyddai beth ydoedd tywyllwch. Eglurodd y dyn mai dim ond am amser y byddai yn nos ac y deuai goleuni drachefn: