Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi llawer o baratoi cyrhaeddodd lan yr afon a chroesodd. Y peth cyntaf a welodd oedd gwraig yn casglu'r hadau. Ebr efe wrthi: "y mae tân y dynion yn yr ogofeydd wedi diffodd, rhowch fenthyg tân i ni os gwelwch yn dda?"

"Gwnaf," meddai'r wraig, "dewch gyda mi i'r pentref a rhoddaf dân i chwi." Aeth y dyn gyda hi. Wedi cyrraedd y pentref, meddai'r wraig wrtho: "Y mae eisiau bwyd arnoch, arhoswch yma hyd nes i berw ohonof yr hadau a chewch brofi ein bwyd ni." Eisteddodd y dyn i lawr ac arhosodd nes bod bwyd y gwragedd yn barod. Malodd y wraig yr hadau rhwng y cerrig a berwodd y blawd, ac meddai'r dyn, wedi bwyta, "Dyma'r bwyd gorau a gefais erioed. Gyda'ch caniatad mi a arhosaf yma gyda chwi": ac felly y bu.

Wedi hir ddisgwyl meddyliodd ei gyfeillion yn yr ogof fod rhyw ddamwain wedi digwydd, ac anfonwyd un arall i chwilio amdano ac i fenthyca tân; ond digwyddodd yr un peth iddo yntau. Hoffodd fwyd y gwragedd mor fawr fel yr anghofiodd bopeth ac arhosodd yn eu mysg.

Tri o ddynion oedd yn yr ogof yn awr, ac yr oeddynt i gyd yn ofergoelus. Credent fod rhyw ysbryd aflan wedi achosi damwain i'w cyfeillion; ac wedi hir aros ac ymddiddan maith anfonwyd y