Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Richard Lander: Arloeswr Ysgotaidd 1804- 1833: Arloeswr ar yr Afon Niger.

David Livingstone: Arloeswr a Chenhadwr Ysgotaidd 1813-1873: Canolbarth Affrica.

Henrich Barth: Arloeswr Almanaidd 1821- 1865: Canolbarth Affrica.

John Speke: Arloeswr Saesneg 1827-1864.

Syr Samuel Baker: 1821-1893.

Y Cadfridog Gordon: Milwr Saesneg 1833- 1885: Swdan, Khartoum.

Cerney Cameron: Arloeswr Ysgotaidd 1844- 1894: Croesodd ar draws Affrica.

Henry Moreton Stanley: Cymro 1841-1904: Canolbarth Affrica, etc.

Wel beth am y wlad fel y mae heddiw? Faint a ellir ei ddywedyd am dani mewn un bennod? Cawn weled.

Ar glawr y llyfr y mae map sydd megis darlun o Affrica wedi ei dynnu o 'aeroplane,' a'n bwriad yw ymweled â rhai o'r lleoedd a holi yn eu cylch.

MYNYDDOEDD ATLAS.

Dechreuwn yn y Gogledd. Yr enw cyntaf sydd yn dal ein sylw yw: Mynyddoedd Atlas. mae i'r rhain le pwysig yn hanes Gogledd Affrica.