Y maent yn hen fel Affrica ei hun, a'u huchter yn agos gymaint dair gwaith â'r Wyddfa. I'r Gogledd iddynt y mae Morocco, Culfor Gibraltar, Môr y Canoldir, a'r dinasoedd enwog Fez, Tangier, Algiers a Tunis. Y maent heddiw i gyd o dan faner Ffrainc ac Ysbaen. Ynddynt hwy y bu'r ymladd mawr am yn agos i dair blynedd rhwng y Ffrancod a'r Ysbaenwyr ar y naill ochor a'r Riffiaid ar yr ochor arall. Wedi hir ymladd gorchfygwyd ac y alltudiwyd y Swltan fel carcharor i ynys fawr Madagascar.
DIFFEITHWCH Y SAHARA.
Megis yng nghesail y mynyddoedd y diffeithwch y Sahara, y mwyaf yn yr holl fyd. Nid môr o dywod fel ei gymydog, anialwch Lybana, yw'r Sahara. Y mae pobl yn byw mewn rhannau ohono,—pobl grwydrol fel rheol. Ond y mae yno hefyd ardaloedd a phentrefi sefydlog. Nid oes angen dywedyd mai yng Nghyffiniau'r Oasis y ceir y cyfryw (Gan mai gair Groeg yw "Oasis y mae gennym yr un hawl a'r Sais i'w fabwysiadu). Ychydig iawn o law sydd yn y Sahara ac y mae'r wybren bron yn ddigwmwl ar hyd y flwyddyn Ond mae'r gwres yn ofnadwy, yn annioddefol felly. Prin iawn y gall dyn gwyn ddal y poethter,