"O! cig faint a fynnaf a llawer o o ddanteithion eraill hefyd. Deuwch gyda mi i'r dref a chewch chwithau hefyd gymaint o'r pethau da fel y deuwch chwithau yn fuan iawn yn greadur golygus."
"Diolch yn fawr," ebe'r llwynog. "Yr ydych yn garedig dros ben": ond tipyn yn amheus ydoedd hefyd.
"Peidiwch ag ofni," meddai'r ci, "mi drefnaf fi bob peth fel na bydd raid i chwi bryderu dim o gwbl. Dilynwch chwi fi, dyna'r cyfan."
"Or gorau ynteu," meddai'r llwynog. "Ewch chwi yn gyntaf ac mi a'ch dilynnaf chwi, ac ni byddaf ymhell ar ôl chwaith. Gwyddoch nad wyf fi byth yn fy ngwthio fy hun, creadur bach swil iawn ydwyf fi; ond os gwelwch chwi ddarn go dda o gig, cyferthwch a deallaf fod bwyd i'w gael."
"Gwrandewch," meddai'r ci. "Mi redaf i i'r dref a phan welaf ddarn go flasus o gig gwnaf sŵn fel hyn "wai—ai "." "Reit" meddai'r llwynog, i ffwrdd â chwi." Ar hynny dyma'r ci yn rhedeg nerth ei draed yn ei ôl i'r dref a'r llwynog cyfrwys yn dilyn, ond nid yn rhy agos.
Aeth y ci i lawr ryw stryd hir a daeth at dŷ lle'r oedd gŵr, clamp o ddyn mawr cryf, yn hogi ei waywffon â charreg. Dechreuodd y ci redeg yn ôl a blaen â'i drwyn wrth y ddaear yn arogli popeth,