Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac meddai wrtho'i hun: "Rwyn siwr y deuaf ar draws darn o gig cyn hir."

"Yr hen walch drwg," meddai'r dyn oedd yn hogi'r waywffon â charreg. Beth wyt ti yn ei 'mofyn yma, â'th drwyn ym mhob peth?" Taflodd y garreg at y ci nes ei daro rhwng ei asennau. Wai—ai," meddai'r ci dros yr holl le gan neidio i'r awyr ac i ffwrdd ac ef nerth ei draed a'i gynffon rhwng ei goesau, yn cyfarth ac yn gweiddi.

Mae'n wir iddo weiddi wai—ai," meddai'r llwynog, "ond fentra i ddim, chwaith y tro yma," ac yn ei ôl ag ef ar garlam gwyllt i'w ffau yn y wlad. Dyma'r tro olaf i neb weled llwynog yn y dref a dyma'r tro olaf hefyd i gi mawr y dref fynd ar ei ben ei hun i'r wlad.