Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a phwysig, ond yr oedd hithau hefyd yn ferch gall a synhwyrol. Wedi malu'r hadau rhwng y cerrig profodd hwynt ac meddai: Y maent yn dda, ond yn galed. Ys gwn i beth a ddigwyddai pe rhoddwn hwynt mewn dŵr berwedig?" Gwnaeth hynny ac meddai: "Dyma welliant, ond tipyn yn galed ydynt eto hefyd: mi a'u berwaf." Yr oeddynt mor dda fel y galwodd Mabana ei fawrhydi y pennaeth i'w profi.

"Dyma fwyd newydd a da," meddai. "Yr wyf fi wedi ei brofi, a dyma'r bwyd gorau a gefais erioed." Yna cyfranogodd y pennaeth ohono, ac yr oedd llawenydd mawr ymysg y llwyth am iddynt ddarganfod bwyd newydd.

Bob blwyddyn âi'r pennaeth a'i bobl i lan yr afon fawr i gasglu'r hadau, oblegid yr oedd llawer ohonynt erbyn hyn wedi profi'r bwyd newydd ac yr oedd fel amheuthion melys iddynt hwy.

Un gaeaf, pan oedd bwyd yn brin iawn yn y wlad, aeth y pennaeth a'i bobl i hela yn y diffeithwch, ac yn yr helfa clwyfwyd Gemsbok, math o antelope mawr a chryf sydd i'w weled yn aml yn neheudir Affrica. Tebyg i ful ydyw o ran maint, ac y mae ei gyrn hir a miniog yn ei wneuthur yn greadur gwir beryglus. Y mae hanes amdano yn lladd hyd yn oed lew. Wedi ei glwyfo aeth y pennaeth