Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ei ymyl yr oedd darn cul o dir yn ymestyn ychydig lathenni i'r dŵr, nid tir mohono chwaith, ond llaid. Gwthiodd y cnaf cyfrwys ei ffordd yn hwn mor bell ag y gallai a chymerodd arno fod mewn perigl. Galwodd ar yr hwyaden i'w helpu a meddai: "O Meistres Hwyaden, dewch i'm helpu!

"'Rwyf wedi glynu yn y llaid, ac ni allaf symud!" Nofiai'r hwyaden falch heb wneuthur unrhyw sylw o'r llwynog. Yna dechreuodd y llwynog wenieithio iddi a dywedyd: "Gwyddoch Meistres Hwyaden fel yr wyf bob amser yn edmygu eich adenydd tlws: y maent mor gryf a phrydferth. Sylwais arnoch yn hedfan dros y llyn, ac ni welais aderyn tlysach erioed—a'r modd urddasol y disgynasoch ar y dŵr oedd y peth tecaf a welais i erioed."

"A! yr hen walch!" ebe'r hwyaden: "Mi hoffet ti fy mwyta, 'rwyn gweled: dydd da."

"Sut y gellwch feddwl y fath beth Meistres Hwyaden, a minnau yn edmygwr o honoch ar hyd f'oes? Dewch yn nes i helpu creadur tlawd mewn gwir berigl: un na all ei achub ei hun, llawer llai gwneuthur niwed i un y mae yn ei hoffi mor fawr."

"Er hynny, frawd, y mae arnaf dy ofn " ebe'r hwyaden; "ond os wyt am ddyfod yn rhydd o'r