Prawfddarllenwyd y dudalen hon
llaid, gwna fel hyn," a lledodd ei hadenydd gan eu hysgwyd ar y dŵr.
"Ol unwaith eto" meddai'r llwynog cyfrwys, "y mae mor dlws." Ac yr oedd yr hwyaden mor falch o'i hadenydd, ac mor barod i'w dangos ei hun fel yr anghofiodd gyfrwysdra'r llwynog. Tra'r oedd hi'n brysur yn dangos ei phranciau ar y dŵr symudodd y llwynog yn nesnes ati ac fel yr ysgydwai ei hadenydd heb edrych o'i chwmpas cydiodd y llwynog ynddi. A dyna ddiwedd yr hwyaden.