Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel y bechgyn eraill, ac am iddi ofyn i'r negesydd ddyfod a digon ar ei gyfer ef hefyd.

O'r gorau," meddai'r chwaer, oblegid nid oedd am ddangos ei heiddigedd yn allanol.

Wedi rhai wythnosau daeth y negesydd yn ei ôl a'r lliain coch gydag ef, a mawr oedd y cyffro ymysg y gwragedd a'r plant hefyd. Mesurwyd y lliain, ac yr oedd yno union ddigon ar gyfer pawb ond Kobe, a chan mai efe oedd yr ieuengaf, efe hefyd oedd yr olaf i gael ei ddewisiad. Mesurwyd a mesurwyd y lliain ond i ddim pwrpas. Nid oedd ond prin ddigon ar gyfer y lleill.

Tra'r oedd y gwragedd yn brysur yn mesur ac yn torri, yr oedd mwnciod yn chwarae ar ganghennau'r coed yn ymyl, ac yn sylwi'n graff arnynt yn dadlau ynghylch y lliain.

Y mae'r hyn a ddigwyddodd wedyn yn ddirgelwch. Pa un a adawyd y lliain y tuallan tra bu'r gwragedd yn coginio'r uwd, ni wyddom.

Ond hyn sydd sicr: pan ddaethant yn eu hôl yr oedd y lliain wedi diflannu, ac ni wyddai neb i ble. Chwiliwyd a chwiliwyd ond nid oedd dim golwg O'r diwedd cyhuddwyd Mundi o ladrata neu o ddinistrio'r lliain.

Gwadodd Mundi hyn yn bendant, ac awgrymodd mai'r mwnciod oedd y lladron. Ond ni wrandawai'r