Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

swynwr ar ei hesboniad hi. Heb os nac oni bai, yr oedd y gwragedd wedi talu'n dda iddo am ei waith. Condemniodd Mundi i brofi ei diniweidrwydd trwy yfed gwenwyn, a sefyll ei phraw ar doriad y wawr.

Meddai Mundi wrthi'i hun: "Yr oedd y swynwr yn yr hen gartref yn eithaf iawn. Un llawenydd oeddwn i'w gael ac nid oeddwn i ddychwelyd adref mwy. Dyma ei eiriau wedi dyfod yn wir." Clywodd Kobe fod ei fam i yfed gwenwyn ar doriad y wawr, ac ni wyddai beth i'w wneuthur. Meddyliodd yn ddistaw ynddo ei hun na chawsai ei yfed. Yr oedd wedi dysgu er pan yn faban bron i guro'r tabwrdd. Yr oedd nifer ohonynt at wahanol amgylchiadau yn nhref y pennaeth, ac yntau'n gyfarwydd â phob un. Chwiliodd am y tabwrdd a allai siarad, y tabwrdd a ddefynddid i yrru negesau o un pentref i'r llall.

Heb ddywedyd un gair wrth neb, daeth Kobe o hyd iddo a rhedodd ag ef i'r goedwig. Dringodd i ben coeden a dechreuodd guro, gan obeithio y clywai ei ewythr a phobl ei fam. Ystyr y neges a gurai ar y tabwrdd ydoedd:

'Ewythr a pherthnasau dewch i achub fy mam." Drwy'r nos eisteddodd Kobe yn y goeden gan barhau i guro'r tabwrdd. Ond ni ddaeth neb.