Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd sŵn y tabwrdd yn uwch yn awr nag o'r blaen. Gwyddai Kobe fod pob munud yn golygu gobaith, ac yr oedd am ddal ati hyd y diwedd. Daeth yr awr ofnadwy. Cerddodd Mundi yn araf i ganol y pentref. Dilynnwyd hi gan y gwragedd eraill fel pe byddent mewn angladd. Eisteddai'r swynwr gyda'i gelfi a'r cwpan o wenwyn. Dywedodd nifer o bethau nad oedd neb yn eu deall, a chyflwynodd y cwpan i Mundi.

Yna gorchmynnodd iddi brofi ei diniweidrwydd trwy yfed gwenwyn, ac meddai: "Mundi, os wyt ddieuog, ni ddigwydd dim niwed i ti. Os wyt euog, byddi farw mewn eiliad."

Edrychodd Mundi o'i chwmpas. Dymunai gael un olwg arall ar Kobe, ond nid oedd efe yno. Cymerodd y cwpan yn ei dwylo a chododd ef yn araf at ei gwefusau. Edrychodd unwaith eto o'i chwmpas. Trodd at ei chwaer. Estynnodd ei llaw at y pennaeth. Sibrydodd wrth y Swynwr:

Yr wyf yn ddieuog."

Daeth distawrywdd mawr dros lle. Yr oedd hyd yn oed sŵn y tabwrdd wedi distewi, a phan oedd Mundi ar fin yfed dyma waedd fawr nes bod yr holl le'n diasbedain.

2Aros, Mundi, paid ag yfed!" Rhedodd ei brawd ati a Kobe a'r tabwrdd ar ei ôl. Dilynnwyd