Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

STORI VIII
CWNINGEN, ELIFFANT A'R HIPPO[1]

UN tro aeth cwningen i ddadlau â'r eliffant. Meddai'r gwningen wrth yr eliffant: "'Rwyf yn gryfach na chwi, gallaf eich tynnu i'r dŵr." Chwarddodd yr eliffant, ond adroddodd y gwningen ei stori eilwaith, ac meddai: "Er eich bod yn fawr, gallaf eich tynnu i'r afon." Atebodd yr eliffant, "Rwyt mor fach wningen bert, ond os gelli fy nhynnu i'r afon cei un o'm cyrn fel rhodd i'th atgofio am yr orchest." "Reit" meddai'r gwningen.

Gyda hyn, aeth at lan yr afon ac meddai wrth yr hippo. "Meistr Hippo, gallaf eich tynnu i'r lan." "Ho!" ebe' yntau, a'i geg fawr yn agored, "Peth bach fel ti yn fy nhynnu i i'r lan!" Wel, os llwyddi, cei un o'm plant."

Yna taflodd y gwningen raff am wddf yr hippo ac meddai: "Pan deimlwch y rhaff yn dyn, tynnwch nerth eich pen." Yna rhedodd at yr eliffant a

  1. Gwel y Darlun ar y ddalen gyntaf.