daeth allan o'r goedwig gan lyfu ei wefusau. Dododd y sach ar ei gefn, ac i ffwrdd â hwy i'r Zombo lle'r oedd marchnad y tabyrddau. Prynodd y llewpard y tabyrddau, ac fel rhan o'r tâl cyflwynodd y sach a'i gynnwys i'r marsiandwr, gan sibrwd yn ddistaw yn ei glust: "Peidiwch ag agor y sach hyd nes byddwn ni ymhell o'r golwg." "Reit," ebr yntau.
Ar ei ffordd adref yr oedd eisiau treio'r tabyrddau. Y llewpard oedd y cyntaf i dreio. Curodd y tabyrddau a chanodd: "Y mae rhai pobl ffôl ar eu teithiau." Cân yr oedd ef wedi ei chyfansoddi oedd hon, i wawdio'r gasel oedd wedi bod mor ffôl a gadael iddo ladrata ei blant.
Yna cymerodd y gasel y tabyrddau a chanodd: Collwyd sach callineb draw yn nhwll y mêl."
Aethant ymlaen trwy amryw bentrefi a'r ddau yn canu eu cân a'r bobl yn rhoddi arian iddynt.
Meddyliai'r llewpard o hyd ei fod ef yn gyfrwys a chall a'i gyfaill yn ffôl a gwirion.
O'r diwedd cyraeddasant y dref. Prysurodd y gasel i'r tŷ i ofalu bod y wraig a'r plant yn cuddio'n ddiogel.
Aeth y llewpard hefyd adref ac wedi cyfarch ei wraig, galwodd am y plant i'w pleseru eu hunain gyda'r tabyrddau.