Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

STORI X
Y MWNCI DIREIDUS

YN y goedwig fawr yng Nghanolbarth Affrica yr oedd mwnci bach yn byw gyda'i dad a'i fam a'i frodyr a'i chwiorydd. Ni bu mwnci mwy direidus erioed mewn coedwig. Yr oedd hyd yn oed ei fam yn dywedyd hynny. Rhybuddiai ef bob dydd i adael pethau'n llonydd ac i beidio â phoeni'r mwnciod eraill drwy gydio'n eu cynffonnau. Yr oedd mor llawn o driciau drwg fel yr âi'r mwnciod bron i gyd o'u cof.

Un diwrnod cafodd fraw ofnadwy. Yr oedd wrthi'n brysur yn chwilio am fwyd dan y cerrig yn y goedwig. Ymhen tipyn cydiodd mewn carreg fawr oedd wedi ei gosod ar dwll crwn a dyma ben neidr yn dyfod allan o'r twll. "Daeth allan bron fel mellten," meddai ef.

Cyn gynted ag y daeth hi allan o'r twll dechreuodd siarad â'r mwnci, ac meddai: "Y mae eisiau bwyd arnaf, ac yr wyf am dy fwyta." Erbyn h