Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ben uchel, ac y gall redeg bron mor gyflym a'r un o honynt.

Dyma sut y collodd yr estrys ei orsedd. Aeth yn rhy falch a gormesol—yn gymaint felly fel mai prin y meiddiai neb siarad ag ef.

Pan alwai'r estrys yr anifeiliaid gwyllt i hela, y llew oedd yr arweinydd, a'r nesaf ato ef oedd y llewpard, ac yn dilyn deuai'r hyena, y blaidd a'r jackal. Yr oedd pob un ohonynt yn gwybod sut i hela, a phan ddychwelent yr oedd ganddynt bob math ar ysglyfaeth, antelopiaid, spring-bok, duiker, sebra, giraff, heb law nifer fawr o greaduriaid llai.

Y llew bob amser oedd cynrychiolydd yr helwyr wrth gyflwyno'r ysglyfaeth i'w fawrhydi, ac ni chafodd brenin erioed ei seboni'n fwy na'r estrys gan y llew. "O frenin," meddai, "byddwch fyw byth. Wele'r creaduriaid gwael sydd gennyf i'w cyflwyno ger eich bron. Byddwch mor garedig ag ymostwng i ddywedyd wrth eich gweision beth yw ewyllys da eich Mawrhydi."

Atebodd yr estrys gydag awdurdod balch " Iau'r sebra i mi: rhennwch y gweddill rhwng yr helwyr. 'Rwyf wedi llefaru." Synnodd y llew i glywed brenin yn gofyn am iau'r sebra, a'r gweddill i'w rannu rhwng yr helwyr, oblegid y gweddill yn ôl ei syniad ef oedd y gorau o ddigon, a meddyliodd