lawer, beth tybed oedd ystyr peth fel hyn? Modd bynnag dyna'r gorchymyn a chan mai'r brenin oedd wedi llefaru, nid lle'r gwas oedd holi.
Mwynhaodd yr estrys ei wledd yn fawr, ac wedi bwyta daeth chwant cysgu arno. Eisteddodd i lawr, fel y gwna pob aderyn mawr, a chysgodd yn iawn. Ond camgymeriad mawr yr adeg hynny oedd i frenin gysgu'n drwm, oblegid yr oedd ei fywyd bob amser mewn perigl. Dylai ef gysgu ag un llygad yng nghau a'r llall ar hanner agor. Dywedir bod rhai pobl yn cysgu â'u llygaid yng nghau a'u genau ar agor. Felly y gwnaeth yr estrys. Cauodd ei ddau lygad ac agorodd ei big.
Yn awr, tra'r oedd y brenin estrys yn cysgu â'i big yn agored, daeth rhyw gywreinrwydd dros y llew i gael golwg ar y tu mewn i'w brenin, ac er mawr syndod a diflasdod gwelodd nad oedd gan y brenin ddannedd.
"Ein brenin ni," meddai "heb ddim dannedd! Dyna paham y gofynnodd am iau'r sebra. I feddwl fy mod i mor ffôl, llew mawr cryf fel fi, yn gwasanaethu creadur diddannedd fel hwn!"
Aeth o'i gof yn lân, yn gymaint felly, fel y brathodd ben yr estrys i ffwrdd; a dyna'i ddiwedd fel brenin. Byth oddiar hynny y llew yw brenin bwystfilod y goedwig a'r anialwch.