Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

STORI XII
Y GOEDEN FÊL

MEWN pentref ar gyffiniau anialwch y Kalahari yr oedd merch fach yn byw gyda'i thad a'i mam. Tselane oedd ei henw; ac ystyr Tselane yw llwybr. Tselane oedd cannwyll llygad ei thad ac yr oedd yn ei hoffter ati'n ei difetha'n lân.

Lle anghysbell iawn yw anialwch y Kalahari, ac yn aml y mae'r trigolion yn dioddef yn fawr oherwydd prinder dŵr.

Ffarmwr oedd tad Tselane ac yr oedd ganddo lawer iawn o wartheg a geifr. Bu nifer ohonynt farw un flwyddyn am nad oedd dŵr i'w gael.

Penderfynodd tad Tselane symud i ardal o'r enw Lotlakane, ond ni wyddai sut i dorri'r newydd i'w wraig a'r ferch fach Tselane.

Un noson, eisteddai'r tad wrth y tân gan edrych ar ei wraig yn cymysgu'r uwd yn y crochan a Tselane yn chwythu i wneuthur i'r tân gwelltglas