Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynneu. Trodd atynt yn sydyn ac meddai: "Y mae gennyf newydd drwg i chwi. Yr wyf wedi gwneuthur fy meddwl i fyny fod yn rhaid symud oddi yma, ac yr wyf am gychwyn bore fory." Yna trodd yn serchus at Tselane gan ddywedyd:

F'anwylyd! rhaid i tithau hefyd ddyfod."

Bore drannoeth trodd tad Tselane y gwartheg a'r geifr allan o'r corlannau a chychwynnodd ar ei daith i Lotlakane lle'r oedd dŵr yn y borfa; ond ni fynnai Tselane adael ei chartref a'i chyfeillion yn y pentref ar gyffiniau'r anialwch.

Dilyn di fi," meddai'r fam wrth Tselane, ond nid oedd Tselane yn fodlon o gwbl, a dechreuodd strancio a sgrechian.

"Ddo i ddim, mam; y mae'n tŷ ni mor hardd a'r muriau wedi eu gorchuddio â gleiniau o bob lliw, gwyn a choch a melyn a gwyrdd; na, ddo i ddim. Yn yr anialwch y mae'n boeth yn y dydd ac yn oer yn y nos ac y mae yno lewpardiaid a llewod a nadroedd. Ddo i ddim."

"O'r gorau, Tselane; gan dy fod mor ystyfnig aros yma ar dy ben dy hun, ond gofala gloi'r drws rhag ofn i ti gael dy fwyta gan y marimos (canibaliaid)."

Clôdd Tselane ei hun yn y tŷ ac aeth y fam a'r caeth forynion ar ôl y gŵr a'r gwartheg i gyfeiriad Lotlakane.