oedd neb erioed wedi clywed am y fath beth—hynny yw ysgol yn ôl ein syniad ni am beth felly.
O gylch y pentan fin yr hwyr oedd yr unig ysgol yn Affrica yr adeg honno, a'r tad fel rheol oedd yr athro, a'i ddull o ddysgu oedd adrodd ac ail adrodd straeon.
Ond yr oedd rhai pethau yn troi ym meddwl Tselane oeddynt yn ddyrys iawn iddi, ac wedi gwrando ar y straeon gofynnai nifer o gwestiynau.
Holai lawer am y byd yr oedd yn byw ynddo. Hoffai wybod beth oedd y ddaear, a beth oedd yr wybren, ac a oedd rhywbeth o dan y ddaear. Ond yr oedd rhai o'r gofyniadau yn rhy galed i'w thad eu ateb.
Credai ef fel pawb o bobl Affrica yr adeg honno, fod y ddaear yn wastad yn lle bod
lle bod yn grwn fel y dysgir y plant yn ein hysgolion ni, a meddyliai hefyd os cerddai yn ddigon pell y deuai o'r diwedd i ben draw'r byd. Yn y pen draw y mae mur mawr i rwystro'r bobl a'r anfeiliaid rhag syrthio allan ohono. Nid oedd gan bobl Affrica air am y cread—yr agosaf yn ei hiaith hwy oedd: "Yr holl wledydd." Nid oedd ganddynt chwaith syniad am nefoedd fel cartref i bobl dda fyw ynddo, nac am unrhyw le arall ar gyfer y rhai drwg. Credent fodd bynnag, fod gwlad arall yn uwch i fyny yn