Pam yr ydych yn gofyn?" ebe'r ysgyfarnog. Am fod eich llais chwi fel llais yr ysgyfarnog yr wyf yn chwilio amdani," ebr yntau.
O felly; wel, yr ydych wedi camgymeryd. Nid hyhi ydwyf fi: ond mam yr Elandiaw sy'n byw yn y goedwig fawr."
"O'n wir," medai'r blaidd drachefn, "nid wyf yn ei hadnabod hi, ond y mae eich llais chwi yn bur debyg i'r ysgyfarnog yr wyf fi yn ei mofyn." A chyda hyn gwnaeth ymdrech ddychrynllyd i'w wthio'i hun i mewn i'r twll yn y goeden; a bu agos iddo lwyddo hefyd.
Cafodd yr ysgyfarnog y fath fraw fel y neidiodd trwy dwll arall yn y goeden, ac i ffwrdd â hi nerth ei thraed hyd nes cyrraed glan yr afon; ond yr oedd yr afon wedi llifo dros y glannau ac yn llawer rhy lydan i greadures fach fel hi i'w chroesi. Y blaidd yn dyfod ar ei hôl a'r afon fawr lydan o'i blaen! Yn ei phenbleth daeth y syniad iddi i newid ei ffurf, a gwnaeth ei hun i ymddangos fel carreg gron.
Cyn hir daeth y blaidd o hyd iddi, ond ni allai yn ei fyw ddeall beth oedd carreg gron fel carreg malu ŷd yn ei wneuthur ar lan yr afon, a chan ei fod fel yr holl fleiddiaid yn ddrwg ei dymer cydiodd yn y garreg a thaflodd hi fel y tybiai i'r afon. Ond