Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

honno yn y bythynnod, oedd y modd y twyllodd y cawr y bechgyn ac y bwytaodd eu bwyd ac y gadawodd esgyrn sychion yn eu lle, a chytunai pawb fod y cawr yn gyfrwys a diog.

Ond yr hyn a ofynnai rhai oedd, pam nad oedd y cawr ei hun wedi dod yn ei ôl. Cyn hir yr oedd stwr mawr yn y pentref. Yr oedd un o'r helwyr wrth ddychwelyd o'r helfa wedi gweled y cawr yn gelain ar ben y mynydd.

Yr oedd yn fawr pan yn fyw," meddai "ond yn awr y mae mor dew a'r eliffant," a daeth braw dros bawb yn y lle. Nid oedd neb yn gofidio fod y cawr mawr cyfrwys a chreulon wedi marw, ond yr oeddynt mor ofergoelus fel yr ofnent i'w ysbryd ddial arnynt.

Cynheuwyd tân mawr yng nghanol y pentref, a galwodd y swynwyr y bobl i ystyried y mater. Gwyddai'r bechgyn erbyn hyn y byddai'n rhaid aberthu, ac os meddyliai'r swynwyr mai un ohonynt hwy oedd yn euog o achosi ei farwolaeth, y gorfodid hwy i brofi eu diniweidrwydd mewn rhyw ffurf a fyddai yn sicr o achosi marwolaeth iddynt hwythau hefyd. Holwyd hwynt yn fanwl gan yr hynafgwŷr; oblegid hynafgwŷr sydd bob amser yn llywodraethu ymysg paganiaid. Yr oedd bywyd y bechgyn yn dibynnu yn awr ar un o ddau beth—