Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond yr oedd arnaf awydd yn awr am wybod am y lle arall hwnnw. Drannoeth eis i'r llyfrgell, i chwilio am lyfr ar y pwnc. Gwelais The Epic of Hades, gan Lewis Morris, llyfr newydd ei gyhoeddi. Clywswn lawer gwaith i Lewis Morris Mon i Feirion ganu'n fore; ond ni wyddwn o'r blaen ei fod yn awdurdod ar dduwinyddiaeth hefyd. Eis a'r llyfr i'm hystafell, ac ymgollais ynddo yn llwyr. Gallwn ddweyd am dano fel y dywedodd y chwarelwr am Shakespeare, — "Wyddwn i erioed fod dim cystal wedi ei ysgrifennu yn Saesneg." Ond nid oedd yn hollol,ar y pwnc.

Tra'r oeddwn yn darllen yr Epic, ac yn graddol anghofio tynged fy nghyfaill newydd a'i grwth, dyma gnoc ar y drws. Daeth Prifathraw'r coleg i mewn. "Yr wyf wedi dod a Mr. Lewis Morris i weled eich ystafell," meddai. Yr oedd arnaf awydd angerddol am ofyn i awdwr y llyfr, — gwyddwn y rhaid ei fod wedi astudio daearyddiaeth y fro honno'n drylwyr, — beth oedd ei feddwl am y nos yr oedd yr Undodwr yn rhuthro iddi, er cystal y medrai chwareu "Toriad y Dydd." Ond tybiwn na buasai bardd mor fawr yn hoffi son am ei waith ei hun; a danghosais iddo y darluniau oedd gennyf ar fy muriau, — pob un wedi ei sicrhau wrth y mur a phedwar pin. Y diwedd fu cael ysgwrs ddifrifol â'r Undodwr am ei gredo. Trwy nerth ei resymau, ond yn bennaf oherwydd melusder seiniau ei grwth, profodd i mi ei fod yn fath o Gristion.

Treuliais lawer o'm hamser ar Rodfa'r Môr. Ar ol te gwelid yno hen berson tal yn cerdded yn ol a blaen; a medrais dynnu sgwrs â hwn hefyd. Nid heb beth ofn, oherwydd tybiwn mai gwaith