Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

person ar y Sul oedd melldithio dadgysylltwyr a bendithio'r stiward; ac mai ei waith yn yr wythnos oedd darganfod melldithion a bendithion newydd at ei ddau bwrpas. Ond ni soniai yr hen fab hwn am ddim felly. Yn hytrach soniai am bobl ereill, o brif baffiwr y dydd hyd i brif orthrymwr y byd. Yr oedd ei feddwl yn llawn o'r hyn sy'n darawiadol yn hanes y byd, a chanddo ef y clywais i am Hanes a Rhydychen.

Yr oeddwn yn awyddus iawn am wybod i ble'r elai'r athrawon ar y Sul, a holais lawer. Ceisiais wybod hefyd faint o honynt oedd yn ddirwestwyr, gan feddwl troi y rhai nad oeddynt i'm meddwl fy hun am ddiodydd meddwol,—sef mai y diafol a'u dyfeisiodd oll, yn fore yn hanes y byd, fel y byddai dyn syrthiedig yn ysglyfaeth sicr iddo. A mwyaf oedd amynedd a dioddefgarwch yr athrawon boneddigaidd hyn, cryfaf yn y byd oedd fy awydd innau am eu gwneyd mor rinweddol ag oeddynt ddysgedig.

Ryw dro, hwyrach, caf ysgrifennu hanes athrawon cyntaf Coleg Prifysgol Cymru.

Yr un fu a mwyaf o ddylanwad arnaf fi oedd Daniel Silvan Evans, yr athraw Cymraeg. Ychydig ddisgyblion oedd ganddo, gan nad oedd Cymraeg yn talu yn yr un arholiad yr adeg honno. Cyfarfyddem ef yn ei ystafell ei hun, a darlleneni ryw awdwr fel y Bardd Cwsg neu Theophilus Evans gyda'n gilydd o gylch ei fwrdd. Gwnaeth i ni gymeryd dyddordeb yng ngeiriau yr iaith Gymraeg, ac yn enwedig yn ei geiriau llafar a'i geiriau gwerin. Dangosodd i ni fod gogoniant lle y tybiasom nad oedd ond gerwindeb gwerinol o'r blaen. O dipyn i beth dechreuasom hoffi llenyddiaeth Gymreig; cawsom gipolwg yn awr ac yn