Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

LLE GENEDIGAETH BUNYAN.

COFIANT

JOHN

BUNYA N.

I. EI ENEDIGAETH, LLYGREDIGAETH EI IEUENCTYD, A'I BRIODAS.

Y MAE buchedd tywysog y damhegwyr mewn amryw ystyriaethau yn un na cheir cymhar iddo yn

hanes y ddynoliaeth. Cafodd ei ddyrchafu trwy addysg ddwyfol o'r cyflwr iselaf mewn cym deithas, a'i gymwyso i fod yn weinidog enwog i Iesu Grist, ac yn wron Cristionogol, yr hwn a ddangosai yr oruchafiaeth hồno ar bechod ac angau sydd yn agor pyrth y bywyd, ac yn dwyn dyn i fwynhad o ddedwyddwch, perffaith yn ei natur a thragywyddol ei barhad . Wedi ei eni yn y tylodi dyfnaf, a'i adael i redeg yn wyllt i'r eithafion mwyaf mewn annuwioldeb, yn flaenor mewn

drygioni, ac yn felldith i gymdeithas , attaliwyd ef gan bigiadau yn ei gydwybod nad allai ymryddhau oddiwrthynt. Yn ofer y ceisiai fygu ei argyhoeddiadau, modd y gallai ruthro yn mlaen i golledigaeth , yr oedd llaw Duw arno yn ffrwyno ei dueddiadau gwyllt, ac yn cyfnewid

y cablwr tylawd i fod yn gyhoeddydd grymus o iachawdwriaeth yn haeddiant y Gwaredwr. Y mae ei holl yrfa yn cael ei bortreiadu yn brydferth gan y Salmydd— “ Er gorwedd o honoch yn 6

mysg y crochanau ,” wedi eich trylywio gan y mwg a'r parddu, “ byddwch fel esgyll colommen wedi ei gwisgo ag arian , a'i hadenydd ag aur melyn ”—adenydd goleu a phrydferth y golommen ddwyreiniol sydd yn dysglaerio yn gylchynol megys âg arian llathraidd, ac aur caboledig . Yr oedd yr ail ganrif ar bymtheg yn gyfnod hynod a phwysig yn hanes yr Eglwys. Yr oedd pob ymdrech wedi ei wneyd i wrth -weithio effeithiau y Diwygiad Protestanaidd. Gwnaethpwyd i

6