Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

COFIANT JOHN BUNYAN .

campau Sabbotlol a chwareuyddiaethau eraill yn bethau gorchymynedig. Yn nghanol yr ymrysonfa rhwng cyfeillion Cristiongaeth ac anffyddiaeth y ganwyd Bunyan, yn 1628, ac hynodwyd dydd ei enedigaeth gan fuddygoliaeth enwog ar drais ac anffyddiaeth, trwy fod ysgrif yr Iawnderau ( The Bill of Rights) wedi pasio arno .

Swm у

weithred hòno ydoedd, nad oedd neb i gael ei

drethu ond trwy gydsyniad y Senedd, na neb i gael ei ddal, ei garcharu, na'i ddienyddio, ond yn ol trefn rheolaidd y gyfraith . Gwnaed pob ymdrech gan y llys i ad -cnill eu gallu tra -awdurdodol a gormesol, ac i gyrhaeddyd yr amcan hwn cyflawnodd greulonderau a'i gwnaeth yn fwy adgas nac érioed yn ngolwg y bobl. Am wrthsefyll yr ymgais hwn cafodd gwŷr llên a gwŷr lleyg, o'r hynodrwydd mwyaf am eu dysgeidiaeth a'u duwioldeb , gneifio eu clustiau a hollti eu trwynau, nodi eu hwynebau a haiarn poeth, a'u flangellu yn gyhoeddus ar cu cyrff noethion nes yr oedd y

cnawd yn cael ei rwygo ymaith a phob gwäalennod, ac yn y diwedd eu carcharu mewn dull mor greulawn, fel, erbyn eu rhyddhau , yr oeddynt yn analluog i weled , i glywed, ac i gerdded. Dilyn wyd y creulonderau hyn gan ryfel cartrefol, yr hwn a lanwodd y wlad ag anfoesoldeb aa haloged igaeth .

I wrthsefyll y ffrydlif ddrygionus hon, gwelodd Duw yn dda godi byddin o Gristionogion

hyglod, dynion o fuchedd difrycheulyd, a chymeriad grymus a phenderfynol. Yr oedd dau o'r rhai hyn yn meddu athrylith creadigol digyffelyb, un o honynt yn weriniaethwr penderfynol, yr hwn, trwy ei bryddest aruchel, Coll Gwynfa, a addurnoud lenyddiaeth ei wlad ; a'r llall yn freninwr llawn mor benderfynol, Taith Pererin, yr hwn sydd wedi profi yn fendith bwysig, nid yn unig i'r genedl hon, ond hefyd i'r holl fyd. Ganwyd Bunyan yn mhentref Elstow, oddeutu milldir o dref Bedford, mewn bwthyn isel a

thylawd. Gwnaed llawer cais i ddarlunio golygfeydd ei fywyd hynod. Clerigwyr a gweinidogion ymneillduol, lleygwyr a brenin -feirdd, ac hyd yn nod pabyddion a gyd-unasant i ddwyn tystiolaeth i duedd santaidd ei ysgrifeniadau . Cytuna pawb fod ei ddychweliad - ei fedydd ysbrydol - wedi rhoddi argraff santaidd ar ei holl weithredoedd.

Rhydd Bunyan yr hanes a ganlyn am ei achau : - " Disgynais o deulu isel a digyfrif ; yr oedd

tỹ fy nhad o'r radd a ystyrir yn fwyaf gwael a dirmygus yn mhlith teuluoedd y wlad ; ” yr oedd ef yn ddiau yn eurych ( tinker) gwibiog, ac fel y tybia rhai yn un o'r bedlemiaid (gipsics). Meddai wrth ei ddarllenydd yn un man , “ Ydwyf, yr eiddot, os nad oes arnat gywilydd fy arddel oblegyd fy haniad isel a diystyrllyd .” Cywilydd o honot oblegyd dy dylodi, tydi gyfaill ein pererindod,

yna byddai yn rhaid i ni gywilyddio o'r bugail bach tylawd hwnw a adnabyddir trwy y byd fel y y Salmydd breninol a pher-lesmeiriol; mwy fyth, byddai yn rhaid i ni gywilyddio o Fab dirmygedig y saer tylawd, yr hwn nad ydoedd yn neb llai na Duw wedi ymddangos yn y cnawd . Dywed Bunyan ei hun yn rhywle, “ Y mae gan y Cristion tylawd rhyw beth i'w ateb i'r rhai a ddiystyrant ciei darddiad isel. Gwir, gall hwnw ddyweyd, Fe'm cymerwyd o'r domen , ond yr wyf

yn ofni Duw — dyma yr urddas uwchaf—y mae ganddo yr anrhydedd, y bywyd, a'r gogoniant sydd yn parhau." Darlunia ei dad fel dyn gonest, tylawd, a llafurus, yr hwn, fel Adda, wedi ei droi o Baradwys, oedd ganddo yr holl fyd o'i flaen i enill ei damaid : “ Yr oedd," meddai, " yn ddyn diwyd a gofalus i gynal ei deulu .” Anfonodd ei fab pan yn ieuanc am ychydig amser i'r ysgol i ddysgu

darllen, ond yn fuan iawn, trwy ddylanwad cyfeillion drwg, annghofiodd yr oll a ddysgodd. Meddai Bunyan ei hun , “ Yr wyf yn cyfaddef, er fy nghywilydd, i mi yn fuan golli yr ychydig a ddysgais, a hyny bron yn gwbl. Mewn perthynas i'm bywyd naturiol, am yr amser yr oeddwn

heb Dduw yn y byd, yr oeddwn yn rhodio yn ol helynt y byd hwn, ac yn ol yr ysbryd sydd yn awr yn gweithio yn mhlant anufydd -dod. Fy hyfrydwch oedd cael fy nal gan y diafol wrth ei ewyllys ; wedi fy llenwi a phob annghyfiawnder, fel o'm mebyd nad oedd ond ychydig a ellid ei ii