COFIANT JOHN BUNYAN.
lawr arno mewn digllonedd mawr oblegyd ei bechodau, y rhai oedd ar y pryd yn ymrithio yn dyrfaoedd o flaen ei feddwl; casglodd oddiwrth hyn nad oedd dim maddeuant iddo, ac oddiar y casgliad byrbwyll a rhyfygus hwn penderfynodd ruthro yn mlaen yn ei yrfa, a thynu cymaint o ddifyrwch ag a allai oddiwrth ei bechodau, o hyn hyd ddydd y prawf, gan fod y nefoedd wedi ei
cholli eisioes, ac nad oedd wiw iddo feddwl am yr hapusrwydd sydd yno. Cymerodd hyn i gyd le, tra yr oedd yn y weithred o godi ei humog i daro y gath, ac heb i neb o'i gymdeithion sylwi
fod dim neillduol wedi cymeryd lle ynddo, yr hyn a ddengys y cyflymdra gyda pha un yr oedd drychfeddyliau yn rhedeg trwy ei feddwl. Yn ngrym y penderfyniad rhyfygus hwn, a'i galon
wedi ymgaledu mewn anobaith, aeth yn mlaen gyda ei chwareu fel o'r blaen.
GWRAIG BUNYAN
YN EI ANNOG I DDARLLEN EI LYFRAU .
Nid rhyfedd bod y cyfryw adyn diras wedi myned i'r fyddin. Yr oedd ei wroldeb rhyfygus a'i fuchedd anfoesol, yn ei gyfaddasu yn hynod at ogoniant milwrol, trais -ladrad ac anrhaith. Ymladdodd yn nghymeriad Leicester.
Ar yr achlysur hwn, dewiswyd ef gydag eraill, i wneyd
rhuthr-ymosodiad, ond un o'i gydfilwyr a ddeisyfodd gael cymeryd ei le, â'r hyn y cydsyniodd Bunyan, a thra yr oedd y dyn hwn yn sefyll ar y wyliadwriaeth, lladdwyd ef gan ergyd o wn a saethwyd oddiar y mur. Ond ychydig a effeithiodd hyn arno, yr oedd ei sefyllfa yn y fyddin, lle yr oedd anwiredd yn amlhau, wedi ei wneyd yn galetach nag o'r blaen . Yn fuan iawn, iv