Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

COFIANT JOIN BUNYAN.

II.

YR YMRYSONFA O FEWN, NEU YR ENEDIGAETH O NEWYDD.

YR oedd yn sefyll un diwrnod gerllaw ffenestr tŷ yn bytheirio cableddau arswydus, wedi ymgynddeiriogi mewn nwyddau drwg, pan y daeth y wraig allan yr hon oedd eu hunan, medd Bunyan, yn "druanes anllad ac annuwiol," ac a ardystiodd ei fod yn tyngn a rhegu mewn modd mor ofnadwy fel yr oedd yn crynu wrth ei glywed, a'i fod y tyngwr annuwiolaf a glywodd erioed, a bod y fath un yn ddigon i andwyo holl ieuenctyd y dref." Y mae yn rhaid bod rhyw wallgof- rwydd o ddibrisdod a rhyfyg yn ei lŵon i dynu arno y fath gerydd oddiwrth y fath un. Tarawyd ef ar unwaith gan argyhoeddiad a chywilydd dwfn Safodd yn syn, gwyrodd ei ben, a deisyfodd a'i holl galon gael bod unwaith eto yn blentyn bach, fel y gallai ei dad ddysgu iddo siarad heb yr arferiad ddrwg yma o regu, canys teimlai fod yr arferiad bellach wedi ymwreiddio yn y fath fodd fel mae ofer fyddai iddo geisio ymwrthod ag ef. Fel hyn effeithiodd yr ergyd annisgwyliadwy hwn oddiwrth un o gaethion Satan i glwyfo y gydwybod oedd wedi gwrthsefyll holl gynhygion trugaredd, profodd y geiriau yn had da, or cu hau mewn modd mor ddieithrol, a'i ffrwyth yn y gr ieuanc direidus oedd edifeirwch chwerw. Fel hyn y darlunia ei gymeriad y pryd hwn, ac effaith ei argyhoeddiadau boreuol ar ei gymdeithion mown drygioni.

"Yr oeddwn i yn un o'r pech-eppilteyr mawrion, trwy fy mod yn llygru holl ieuenctyd y dref lle'm ganwyd, un felly y cyfrifid fi gan fy nghymydogion, a'm hymarferiad a brofai gywirdeb eu syniad Cymerodd Crist fi yn gyntaf, yna yr haint a liniarodd. Pan y gwnai Duw i mi ochain, hwy a wrandawent ac a ofynent, "Beth yw y mater ar John Pan awn i ymofyn am fara'r bywyd, rhai a'm canlynent, ac eraill a ddwys-fyfyrient."

Bellach ymroddai i ddyfal gyflawni defodau allanol crefydd, teimlai y parchusrwydd mwyaf at bob beth cysylltiedig a gwasanaeth y llàn, yn enwedig y person a'r clochydd. Yr oedd ei goel- grofydd y pryd yma mor fawr, fel pa bryd bynag y cyfarfyddai âg offeiriad, serch i hwnw fod yn ddyn bydol ei galon ac aflan ei fywyd a'i yunarweddiad, plygai ei ysbryd ger ei fron, parchai ef, glynai ei enaid wrtho, fel y gallasai orwedd i lawr wrth dracd y cyfryw a chael ei sathru ganddo; mor llwyr yr oedd ei enw, ci wisg, a'i waith yn ei feddwi a'i swyno ef!


Y mae yn debyg i'r dygwyddiad difrifol a ganlyn ei yru ymaith oddiwrth y chwareuyddiaethau Sabbothol. Pan oedd clychau yr eglwys yn canu ar un achlysur i alw y plwyfolion yn nghyd i chwarcu camp ar y bêl droed, tarawyd y clochdy a mellten, a lladdwyd y ddau ddyn oedd yn canu y clychau. Bu yn myned wedi yr amgylchiad hwn rai gweithiau i sefyll wrth ddrws y gloch-loft fel edrychydd, ond yn fuan ysgodd y campau Sabbothol yn hollol. Yn yr ymddifadrwydd fywyd ysbrydol, dechreuodd ymfalchio yn ei hunan-gyfiawnder, ac, i ddefnyddio ei eiriau cartrefol ei hun, yr oedd "yn porthi Duw a plenydau, a gweddïau, ac addewidion, ac addunedau, a lliawa o gyffelyb ddysglau danteithiol, gan dybied ei fod yn rhoddi cystal gwasanaeth iddo ag un dyn yn Lloegr, pryd nad oedd mewn gwirionedd ond wedi cael hyd i lwybr tipyn glanach i uffern na'r cyffredin o'i gymydogion."

Yr oedd Bunyan erbyn hyn wedi dyfod yn siaradwr mawr am grofydd, er yn ymddifad o'i gallu o'i mewn, ond diosgwyd ef hunan-gyfiawnder, a hyny yn y modd mwyaf syml ac effeithiol. Wrth ddilyn ei alwedigaeth yn Bedford, dygwyddodd glywed ymddyddan rhwng ychydig o hen wragedd tylolion oedd yn eistedd allan yn yr haul, yr hyn a'i tristaodd ac a'i dychrynodd yn ddir. fawr. "Clywais," meddai, "ond ni ddeallais, yr oeddynt yn llefaru am enedigaeth newydd, am vi