COFIANT JOHN BUNYAN
waith Duw ar eu calonau, a'r dull yr argyhoeddwyd hwynt o'i cyflwr truenus wrth natur ; llef arent am y modd yr ymwelodd Duw a'u heneidiau, a'i gariad yn yr Arglwydd Iesu. Ymddyddan ent hefyd am ddrwg eu calonau, a'u hanngrediniaeth, gan gondemnio aa ffieiddio eu cyfiawnder eu hunain fel yn annigonol i wneuthur iddynt ddim lleshad. A thybiwn eu bod yn llefaru megys pe byddai llawenydd yn eu gorfodi i wneud ; llefarent gyda'r fath hyfrydwch am eiriau yr Ysgrythyr, ac ymddangosai y fath raslonrwydd yn yr oll a ddywedent, fel yr ymddangosent i mi fel rhai wedi dod o hyd i fyd newydd, megys pe baent yn bobl yn preswylio eu hunain, ac heb eu cyfrif gyda'u cymydogion. Arhosodd eu hymddyddanion gyda mi, a glynodd fy nghalon wrthynt hwythau, oblegyd yr oedd eu geiriau wedi effeithio yn ddwys arnaf, a hyny yn un peth, am mae trwyddynt hwy yr argyhoeddwyd fi, fy mod yn ymddifad o wir nodau dyn gwir dduwiol, a hefyd am mai trwyddynt hwy yr argyhoeddwyd fi o gyflwr dedwydd a gwynfydedig y sawl oedd yn gyfryw .”
Deffrowyd ei feddwl yn drwyadl gyda golwg ar werth anfeidrol ei enaid, a'r canlyniad anrheith
adwy o'i golli. Yr oedd adgofio ei anfoesoldeb blaenorol yn ei wasgu weithiau i deimlo holl
ddychrynfeydd anobaith. Yr oedd yn ymdrech am iachawdwriaeth yn debyg i ddyn wrth foddi
yr ymdrech am ei fywyd— “ dyfnder a eilw ar ddyfnder — dy holl dònau a aethant drosof
fi.” Rhuai y corwynt o'i gwmpas. Treuliodd llawer noswaith ddu o dan ymrysoniadau llymdost
ei feddwl. Er hyny yr oedd yn dal ei ffordd, yr oedd Diddanydd anweledig ac anadnabyddus yn
ei gadw rhag llwyr anobeithio. Teimlai ei anallu i wneud iawn am ei bechodau, ond nid oedd yn
vii