Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

COFIANT JOHN BUNYAN .

ddigon gostyngedig i ymddiried yn syml ac yn gwbl ar aberth ac haeddiant Iesu Grist. Yn ystod yr holl amser hwn yr oedd yn efrydydd dyfal ar yr Ysgrythyrau. Bu unwaith am flwyddyn gyfan yn chwilio ei Feibl am adnod oedd wedi taro ei feddwl, ac yn niwedd yr ymchwil mawr, yn yr Apocrypha y cafwyd hi. Ond er gwneud y darganfyddiad hwn nid oedd yn teimlo dim tristwch oblegyd yr oedd yn ystod ei ymchwiliad wedi dod o hyd i amryw adnodau yn y Beibl oedd o'r un ystyr.

Yn mhen misoedd ar ol i'r argyhoeddiadau uchod ddechreu yn meddwl Bunyan, ymwrolodd i wneud ei gyflwr yn hysbys i'r bobl dylodion yr oedd eu hymddyddanion wedi eu hachosi. Pan wnaeth hyn, cyflwynasant ef ar unwaith i'w bugail ysbrydol, Mr. Gifford, gweinidog y Bedyddwyr yn y lle, ac ynddo ef cafodd Bunyan un o gyffelyb ysbryd. Oblegyd yr oedd yntau hefyd wedi bod yn y fyddin freninol, ac wedi cael gwaredigaeth fawr am ei fywyd ; yr oedd hefyd wedi bod yn ofer-ddyn, ac wedi cael trugaredd. Derbyniwyd Bunyan ganddo ef a'i bobl ar ol ymchwiliad priodol, i gymundeb eglwysig, pan yr oedd ef oddeutu pump ar hugain oed.

Ond yr oedd blinderau ei ysbryd clwyfedig yn parhau i lynu wrtho. Mynai ei feddwl ymofyn gar ei foddloni yn nghylch gwirioneddau mwyaf dyrus y Datguddiad Dwyfol. Yr oedd meddwl am ddydd gras, a'r ofn ei fod wedi myned heibio iddo fe, yn achosi poen mawr iddo. Ond symud wyd hyn trwy yr ysgrythyr hòno, “ Cymellwch hwynt i ddyfod i mewn." Gwelai yma fod lle yn mynwes yr Iesu i'w enaid cystuddiol ef. Wedi hyn bu yn bryderus rhag na chafodd ei alw a galwedigaeth effeithiol. “ Pe cawsid yr alwad hòno am arian," meddai, " pe buasai yr holl fyd genyf, cawsai fyned fil o weithiau trosodd. Ni fynwn golli un addewid, neu iddi gael eu tharo o'r Beibl, pe cawn am hyny gymaint o aur ag a gyrhaeddai o Gaerefrog i Lundain , wedi ei bentyru hyd y nefoedd . " Fel hyn y gwelai dylodi cyfoeth ! Mewn cymhariaeth i iachawdwriaeth ei enaid, nid oedd anrhydedd ond trychiolaeth ddiwerth , nac aur ond llwch dysglaer. Etholedig aeth a gwrthodedigaeth, parhad y saint mewn gras, ac uwchlaw y cyfan, ysbrydoliaeth yr Ysgrythyrau, oeddynt destynau ymofyniad difrifol. Ymosodwyd arno gan dymestl o feddyliau cableddus— " amheuon yn nghylch y bod o Dduw , ac awdurdod yr Ysgrythyrau Santaidd.” Dyma'r frwydr ag Apolyon- dyma lle y collodd ei gleddyf am foment, heb yr hwn yr oedd yn ngallu y gelyn. Ond y mae ymchwiliad gweddigar yn chwalu ei holl amheuon, y mae yn ail feddiannu ei arf, ac y mae y gelyn yn dianc ymaith .

Yn fuan ar ol y cyffroadau meddyliol hyn, tarawyd ef ag afiechyd trwm, tebyg i'r darfodedig aeth, ac y mae yn myned i “ Ddyffryn Cysgod Angau.” Y pryd hyn yr oedd golwg fywiog ar boenau anrheithadwy y colledigion yn dychrynu un oedd yn teimlo ei hunan yn haeddi digofaint llidiog Duw . “ Y mae y diafol yn ddiau yn brysur iawn pan y bydd yr enaid mewn tywyllwch. Y mae yn saethu ei bicellau tanllyd atom yn rhyfeddol, pan yr amgylchynir ni gan ddychrynfeydd noson dywyll. Y mae yn chwistrellu mil o feddyliau annghenfilaidd ac atgas am Dduw, gyda malais prysur a disymwth, nes peri iddynt ymddangos braidd fel ysgogiadau ein meddyliau ein hunain, yr hyn sydd yn ein blino a'n poeni yn ddirfawr. "

Yr hyn a barai i'r saethau hyn fod yn fwy treiddgar a thrallodus oedd, fod Satan gyda chyfrwysder mawr yn eu blaen -dipio a darnau o'r Ysgrythyr— " dim lle i editeirwch , " " ei wrthod ef,”” “ni faddeuir iddo ” . —a geiriau eraill, y rhai, trwy gywreinrwydd maleisus yr un drwg, a osodwyd yn bwynt awchus a miniog ar ei bicellau.

Gweddi, yn awr, oedd ei unig gysur, a hyn a'i cynhaliodd ef yn yr ystorm . Fel hyn y dar lunia ei deimladau :-“ O'r dychymygion, yr ofnau, y dychrynfeydd tu hwnt i bob meddwl, a gynyrchir gan deimlad trwyadl o euogrwydd ! Tybiwn fy mod yn gweled yr haul, sydd yn llewyrchu yn y nefoedd, megys yn gwarafun goleuo i mi, a bod ceryg yr heol, a'r llechi ar benau y viii