Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

COFIANT JOHN BUNYAN .

III.

EI DDULL OBREGETHU . - EI DRADDODIAD I GARCHAR.

“ Wrth bregethu y gair cymerwn ofal neillduol i egluro a datgan fod melldith Duw yn ol y ddeddf yn perthyn i, ac yn ymaflyd yn, mhob dyn fel y mae yn dyfod i'r byd, oblegyd pechod. Cyflawnwn y rhan yma o'm gwasanaeth gyda llawer o deimlad, am fod dychrynfeydd ac euogrwydd fy mhechodau yn gorwedd yn drwm ar fy nghydwybod i fy hun. Yr oedlwn yn pregethu yr hyn a deimlwn yn llym -dost - yr hyn yr oedd fy enaid tylawd yn ochain ac yn crynu yn ddirfawr tano. Yn wir, bu’m fel un yn cael ei anfon atynt oddiwrth y meirw ; yr oeddwn yn myned mewn cadwyni i bregethu iddynt hwythau yn eu cadwyni, gan ddwyn yn fy nghydwybod fy hun y tân hwnw y rhybuddiwn hwynt i'w ochelyd.”

Wedi bod yn pregethu am ddwy flynedd yn y profiad tanllyd hwn, caniataodd Duw yn rasol iddo gael mwynhau profiad melus o flas maddeuant yn Nghrist, gyda llawer o dangnefedd a chysur yn ei ysbryd, ac o dan ddylanwad y profiad newydd hwn, dygodd allan o'i drysordy ysbrydol bethau newydd, gan mae ei arfer ydoedd pregethu o Air Duw y peth hwnw yn arbenig y byddai ef ar y pryd yn ei weled ac yn ei deimlo. Yn awr yr oedd yn pregethu pethau gogoneddus gras a chyfiawnder Crist gyda'r un tanbeidrwydd a nerth ag yr oedd o'r blaen yn pregethu damnedigaeth a cholledigaeth pechadur ;-yn awr gyda chalon yn gorfoleddu mewn cariad, fel o'r blaen gyda chydwybod yn cael ei harteithio gan argyhoeddiadau. Cadwodd Duw ef am ddwy flynedd neu dair o dan yr oruchwyliaeth ddedwydd hon, nes yr oedd tôn efengylaidd a nefol ar ei holl bregethau. Dywed ei hun ei fod yn teimlo weithiau wrth bregethu, yn enwedig pan y byddai yn trin yr athrawiaeth o fywyd trwy Grist heb weithredoedd, fel pe buasai angel Duw yn sefyll wrth ei gefn i'w galonogi, yr oedd y gwirionedd yn Nghrist yn dyfod i fewn i'w enaid gyda'r fath nerth a sicrwydd nefol. Ni feiddiai un amser wneyd defnydd o brofiad dynion eraill, ond ymgadwai yn syml at yr hyn a ddysgai ei hunan oddiwrth Air ac Ysbryd Crist, fel y gallai ddywedyd yn ngeiriau Paul wrth y Galatiaid , “ Yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr , am yr efengyl a bregethwyd genyf fi, nad yw hi ddynol. Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y'm dysgwyd, eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist."

Er hyn oll, nid bob amser y mwynhai Bunyan ryddid mewn meddwl ac ymadrodd wrth bregethu. “ Ond," meddai ei hunan, “ wedi i mi ddechreu llefaru gair Duw gyda llawer o eglurder, a sicrwydd, a rhyddid ymadrodd, eto, weithiau, cyn diwedd y cyfleustra hwnw , cawn fy nallu a’m dieithrio i'r pethau y llefarwn am danynt, a theimlwn y fath attalfa mewn gair ac ymadrodd gerbron y bobl, fel y byddwn fel dyn heb wybod neu wedi annghofio pa beth yr oedd yn ei gylch, neu fel pe buasai fy mhen mewn cwd yr holl amser.

Yr amser yma ymwelwyd a Bunyan â phrofedigaeth lem , trwy fod ei wraig gyntaf wedi marw , gan ei adael yn weddw gyda phedwar o blant bychain . Ond rhyngodd bodd i'r Arglwydd roddi iddo gymares drachefn, yr hon a fu iddo ef yn wraig dda, ac yn fam dyner i'w blant, ac a ddangos odd hefyd ei bod yn meddu ar ysbryd gwrones.

Yr oedd dawn Bunyan, a'i benderfyniad di-ilio i amddiffyn y gwirionedd, yn ei wneud yn ddadleuydd galluog. Ei ddadleuaeth gyntaf oedd gyda'r Crynwyr. Un Burrough, dyn o gy ffelyb sel âg ef ei hun, oedd ei wrthwynebydı. Enllibiwyd ef gan Burrough, yr hwn a dybiodd ei fod yn bregethwr cyflogedig, ond fe'i trechwyd trwy ymosodiadau galluog Bunyan. X