Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

COFIANT JOHN BUNYAN.

Bu adferiad Charles II. yn ddechreuad cyfnod galarus i eglwys Cusu yn y wlad hon — teyrn . asiad braw i'r saint ydoedd ei deyrnasiad. Os cyfarfyddai yr ymneillduwyr i addoli, yr oeddynt yn agored i gael eu hysbeilio o’u meddiannau, eu traddodi i garchar, ac hyd yn nod eu lladd. Yr oedd pregethwyr yn cael eu herlid yn y dull creulonaf. Yr oedd ymgais i adferu y meddwyn neu'r penrhydd yn drosedd, oddieithr y gwnelsid hyny yn unol a rheolau yr Eglwys Sefydledig . Cefnogid yr ynfytyn pendefigaidd, y Duc o Buckingham, i wawdio crefydd trwy annerch haid o foneddigion a boneddigesau mewn araeth ddirmygus yr hon a alwai yn bregeth, tra yr oedd Bunyan yn cael ei daflu i garchar am annerch cynulleidfa fechan yn Samsel ar sylweddau difrifol y Gwirionedd Dwyfol. Y mae traddodiad yn dangos heddyw y llecyn lle y caethiwyd y gwr tra duwiol a defnyddiol hwn.


BUNSAN YN YMADAEL A'I WRAIG A'I BLANT.

Adeiladwyd carchardy Bedford ar ben pont oedd yn croesi yr afon Ouse, a chan nad oedd y bont ond pedair troedfedd ar ddeg o lêd, y mas yn rhaid fod y carchar yn un bychan iawn. Fel hyn y darlunia Howard, y dyngarwr, garchar Bedford : - “Y mae y dynion a'r merched drygionus yn cymdeithasu â'u gilydd, ac nid oes ond dwy gell gysgu rhwng y cyfan : yr un cyntedd sydd i'r dyledwyr a'r drwg-weithredwyr, ac nid oes yr un ystafell i geidwad y carchar. Y mae yn anmhosibl i ddychymyg sylweddoli trueni deg -a-deugain neu driugain o feibion a merched duwiol.

xi