Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

COFIANT JOHN BUNYAN .

nid darlleniad o ffurf wedi ei pharotoi yn flaenorol. Cydnabyddai y barnwr o'r diwedd nad oedd yn gydnabyddus â'r Ysgrythyrau, ac a alwodd am amddiffyniad y carcharor yn wyneb y cyhuddiad. “ Y pryd yma," meddai Bunyan , “ y deallais gyntaf fy mod wedi fy ngyhuddo, a dywedais, hyn a gyfaddefaf - cawsom amryw o gyfarfodydd gyda ein gilydd i weddïo Duw , ac i gynghori y naill y llall, a chawsom bresenoldeb melus a diddanus yr Arglwydd i'n cefnogi ; bendigedig fyddo ei enw am hyny ! Ni chyfaddefais fy hunan yn euog mewn un ystyr arall. " Wedi cofrestru у bleidebo euog yn ei erbyn, ymosododd Keeling arno gyda ei ffyrnigrwydd arferol, gan ei alw yn Beelzebub, a hòni ei fod wedi ei feddiannu gan gythraul, yna meddai, “ Gwrando dy ddedfryd , y mae'n rhaid myn’d a thi yn ol i garchar, lle y gorweddi am dri mis, ac yna, oni ymostyngi i fyned i'r eglwys i wrando'r gwasanaeth, a rhoi heibio dy bregethu , y mae yn rhaid dy alldudio o'r deyrnas hon ; ac wedi hyny, os dychweli yn ol heb drwydded arbenig oddiwrth y brenin, yr wyf yn dywedyd wrthyt yn eglur, rhaid dy dynu di gerfydd dy wddf :" yna gorchymynodd i geidwad y carchar ei symud ymaith. Ond atebodd y gwron ef yn ddigryn, “ Yr wyf i fynu a chwi yn y fan yna. Pe gollyngid fi o'r carchar heddyw, trwy gymhorth Duw , pregethwn yr efengyl y foru ."

Teimlodd Bunyan yn ddwys y pryd hyn oddiwrth wendidau natur. “Yr oedd ymadawiad a'm gwraig a'm plant tylodion ," meddai, " yn aml, fel tynu'r cnawd oddiar fy esgyrn ; a hyny, nid yn unig am fy mod yn eu caru rhyw gymaint yn ormodol, ond hefyd am fy mod yn rhagfeddwl am y caledi, y trueni, a'r annghenion amrywiog yr oedd fy nheulu tylawd yn debygol o'i cyfarfod, os cymerasid fi oddiwrthynt, yn neillduol fy ngeneth ddall, yr hon oedd yn agosach at fy nghalon na'r cwbl. Oh ! yr oedd meddwl am y caledi yr oedd fy un ddall yn debyg o gael eu darostwng iddo, yn dryllio fy nghalon yn ddarnau. Druan blentyn ! meddyliwn, y fath flinder yw dy gyfran yn y byd yma yn debyg o fod ! Rhaid i ti ddyoddef dy guro , rhaid i ti gardotta, dyoddef newyn, oerni, noethni, a myrdd o ofidiau , er nas gallaf fi yn awr oddef i'r gwynt chwythu arnat.”

Tra yr oedd yn y cyflwr poenus hwn daeth yr addewid hòno i'w gysuro, “ Gâd dy amddifaid, myfi a'i cadwaf hwynt yn fyw, ac ymddirieded dy weddwon ynof fi.” Y mae yr enghraifft a ganlyn yn ddigon i ddangos y perygl yr oedd bywydau dynion dysgedig a da ynddo y pryd hyn : cyhuddwyd John James, gweinidog yn Whitechapel, ar dystiolaeth un Tipler, gweithiwr gyda gwneuthurwr pibellau, yr hwn, er nad oedd yn bresenol yn y cyfarfod, a dyngodd ei fod wedi ei glywed yn llefaru geiriau bradwriaethol. Er gwaethaf tystiolaethau dynion parchus oedd yn bresenol trwy yr holl wasanaeth, y rhai a brofasant na ddefnyddiwyd y cyfryw ymadroddion, euog -farnwyd Mr. James, a dedfrydwyd ef i gael ei grogi. Pan aeth ei wraig wallgofus at y brenin i ddeisyf ei drugaredd, atebodd y penadur dideimlad mewn dull coegaidd, “ O , Mr. James, boneddwr gwych ydyw ef, y mae yn foneddwr melus !” Trachefn, boreu dranoeth syrthiodd y wraig wrth ei draed, gan ddeisyf ei hynawsedd breninol, ond gwthiodd hi ymaith gyda dirmyg, gan ddywedyd, “ John James - y dihuryn hwnw , caiff ei grogi — caiff, mi gaif ei grogi.” Ac felly, yn mhresenoldeb ei gyfeillion wylofus, esgynodd enaid John James o'r crogbren i'r trigfanau dedwydd .

Yn when y tri mis appwyntiedig, yr oedd Bunyan yn awyddus i wybod beth oedd bwriadau gelynion y groes gyda golwg arno ef. Ei ddedfryd oedd alldudiaeth, ac angeu oni chydymffurfiau ; ond rhoddi i fynu ei broffes o Grist, trwy gofleidio y ffurfiau gwladol, a phlygu ei gydwybod i adeddfau dynol, nis beiddiau. Penderfynau ddal ei dir, pe gorfyddai iddo aberthu ei fywyd. Yr oedd ei ofnau yn nghylch ei enaid ei hun yn awr wedi gwasgaru byth mwyach i gymylu ei obeithion nefol .

Er bod clerigwr cyfoethog wedi cyhoeddi mai Bunyan oedd “ y sismatic mwyaf erchyll trwy holl swydd Bedford,” eto ymddygai llawer ato gyda pharch ac ystyriaeth. Ymwelodd Mr. Cobb.

xiii