Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

COFIANT JOHN BUNYAN.

ysgrifenydd yr ynadon âg ef yn y carchar, ac ymdrechodd, er yn ofer, i'w ddirgymell i adulaw peidio cynal cyfarfodydd crefyddol. Cawsant ynddyddan cyfeillgar iawn â'u gilydd, ac er iddo fethu llwyddo i siglo penderfyniad Bunyan, diolchodd yr olaf yn gynes i Mr. Cobb am ei gyf archiad caredig ag hynaws, ac arweiniwyd ef i anadlu gweddi o'i galon at Dduw , — “ O , na chaem gydgyfarfod yn y nefoedd ! "”

Pan ddaeth yr amser i roddi y rhan chwerwaf o'i ddelfryd mewn gweithrediad, cyfryngodd Duw i achub bywyd ei was . Yr oedd erbyn hyn wedi cynefino ei feddwl â holl amgylchiadau angeu dychrynllyd a chreulon, fel yr oedd y crogbren , yr ysgol , a'r cortyn , wedi colli llawer o'u hofnadwyaeth yn ei olwg; yr oedd hyd yn nod wedi astuclio y bregeth a draddodai i'r dorf ar

achlysur ei ddienyddiad . Ar yr adeg enlydus hon, cymerodd coroniad y brenin le. I hynodi yr amgylchiad, rhoddodd y brenin orchymyn i ryddhau lluaws o garcharorion ag oedd wedi cyf lawni yr un dosbarth 0o droseddau ag y cyhuddwyd Bunyan o honynt, a chan fod brawdlys y sir i fod yn mis Awst, penderfynodd Bunyan anfon deiseb at y barnwyr , i erfyn am ryddhad . Eisteddai y llys yn yr Old Swan Inn, Bedford .

Wedi ysgrifenu ei ddeiseb, aeth ei wraig wylaidd ac ofnog, i'w gyflwyno i'r barnwyr. Darlunir ei gorchestwaith arwrol ar yr achlysur, mewn modd bywiog iawn, gan Bunyan ei hun. Yr ydoedd yn flaenorol wedi teithio i Lundain gyda deiseb at Dŷ yr Arglwyddi, yr hwn a ymddiriedodd i Arglwydd Barkwood, ond efe a'i hysbysodd nad allent hwy ymyraeth yn y mater, gan fod y brenin wedi yuddibynu y gwaith o ryddhau y carcharorion i'r barnwyr.

Yr oedd Syr Matthew Hale yn un o'r barnwyr, ac oddiwrth dystiolaeth Mrs. Bunyan , ym ddengys iddo ef, pan dderbyniodd y ddeiseb, amlygu ei barodrwydd i wneyd ei oreu drosti, er yr ofnai nas gallesid gwneuthur dim ond mewn canlyniad i hysbysiad a wnaed gan un o'r ynadon a ddodasant Bunyan yn ngharchar, mai dyhiryn penboeth oedd efe, rhoddodd y mater i fynu, a gwrthododd gyfryngu. Wedi cael anogaeth, pa fodd bynag, gan yr Uchel Sirydd, i wneyd cynyg arall cyn i'r barnwyr adael y dref, Elizabeth Bunyan a wnaeth ei ffordd eilwaith i ystafell y barn wyr. Gan gyfarch y Barnwr Hale, dadleuodd anuniondeb y ddedfryd a basiwyd ar ei gwr ; ych wanegodd, iddi glywed yn Llundain gan bendefiy, i'r hwn y traddododd ddeiseb at y Senedd yn

erfyn am ei ryddhad , fod ei ollyngdod wedi ei osod yn nwylaw y barnwyr yn y brawdlys nesaf. “ Ac yn awr," ebe hi, “ daethym i edrych a ellid gwneyd dim yn yr achos hwn, ac nid ydych yn rhoddi i mi na gollyngdod nac ysgafnhad.” “ Fy Arglwydd ,” ebe'r Barnwr Chester, “ dyhiryn terfysglyd yw efe ; nid oes un cyffelyb iddo ar ei ol yn y wlad." " A fydd i'th wr di adael pregethu ? ” ebe'r Barnwr Twisdon ; “ os gwnaiff hyny, anfon am dano." “ Fy Arglwydd,” atebai hithau, " nis beiddia wneyd hyny tra y gallo lefaru." " Gwelwch yma," ebe Twisdon, “ i ba ddyben i ni siarad yn mhellach am y fath ddyhiryn ? Ai rhydd iddo wneyd fel y myno ? Terfysgwr yw efe. "" Chwennychai," atebai Mrs. Bunyan, "fyw yn angnefeddus, a dilyn ei gelfyddyd er cynal ei deulu. Heblaw hyny," meddai, " y mae genyf bedwar o blant bychain, analluog i gynorthwyo eu hunain, un o'r rhai sydd yn ddall, ac nid oes genym ddim i fyw arno ond haelioni pobl dda.” “ A oes genyt ti,” ebe'r Barnwr Hale, “ bedwar o blant ? Nid ydwyt ond ieuanc i feddu pedwar o blant ? ” “Fy Arglwydd ," ebe hithau, " nid wyf fi onid llys-fam iddynt, heb fod yn briod ag ef lawn ddwy flynedd eto." Ychwanegodd, ei bod gerllaw cael ei gwely pan gymerwyd ei gwr i fynu, i'r braw achosi gwewyr anmhrydlon, ac i'r plentyn farw . Y Barnwr Hale, gan edrych yn dra difrifol, a waeddodd, “ Och, fenyw druan ! ” Y Barnwr Twisdon, mewn modd dideimlad, a nododd eu bod yn gwneuthur tylodi yn fantell, a bod Bunyan yn cael ei gyn aliaeth yn well wrth redeg yma a thraw i bregethu nag wrth ddilyn ei gelfyddyd. “ Beth ,” ebe'r Barnwr Hale, " yw ei gelfyddyd ? ” “ Eurych, fy Arglwydd,” atebai rhyw edrychwr. “Ië,"”

66

xiv