Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

COFIANT JOHN BUNYAN .

ychwanegai Elizabeth Bunyan , " ac oblegyd mai eurych a dyn tylawd yw, y mae yn cael ei ddirmygu, ac yn methu cael cyfiawnder.” Yr oedd peth gwirionedd yn yr apeliad trwsyl hwn, a theimlodd y Barnwr Fale ei rym . “ Dywedai wrthyt, wraig,” ebe efe yn dra mwynaidd, " gan mai felly y mae'n bod ,—gan iddynt gymeryd geiriau dy ŵr yn lle prawf, rhaid i ti fyned dy hun at y brenin, rhoi cwyn am bardwn, neu geisio ysgrif cam -garchariad .” Y Barnwr Chester, wrth glywed y barnwr uniawn yn rhoi y cyngor hwn iddi, ni allai ddirgelu ei anfoddlonrwydd, am hyny efe a waeddodd :—“Fy Arglwydd, efe a bregetha, ac a wna fel y myno.” “ Nid yw efe yn pregethu dim ond Gair Duw, ” ebe ei wraig. “ Efe bregethu Gair Duw !” ebe Twisdon, mewn cynddaredd ; " y mae efe yn rhedeg yma a thraw, ac yn gwneyd drwg.” “ Na, fy Arglwydd,” ebe hithau, “ nid felly y mae yn bod ; y mae Duw wedi ei arddel ef, ac wedi gwneuthur llawer o les trwyddo." “ Duw ! ” ebe Twisdon, " ei athrawiaeth ef, sydd athrawiaeth y cythraul. ” “Fy Arglwydd,” atebai y wraig addfwyn ond ysbrydol hon unwaith drachefn, “ pan ymddangoso y Barnwr cyfiawn, gwybyddir nad yw ei athrawiaeth ef yn athrawiaeth y cythraul.” Nid oedd modd ateb hyn ; a Twisdon, gan droi at Syr Matthew Hale, a atolygodd arno i beidio sylwi arni, eithir i'w danfon ymaith. Ond y prif farnwr, mewn modd amlwg yn dwys deimlo, a ddywedodd drachefn wrth Mrs. Bunyan mewn tôn garedig, “ y mae yn ddrwg genyf, wraig, nas gallaf wneyd un daioni i ti. Rhaid i ti wneuthur un o'r tri pheth rhag-ddywedediy, sef, naill ai myned dy hun at y brenin , rhoi cwyn am bardwn, neu geisio ysgrif cam -garchariad ; yr olaf fydd y rhataf.” Yn у modd hyn bu ei hapeliadau grymus at y barnwyr yn ofer, a chyda theimladau chwerwon , dychwelodd i'r carchar, gan gredu mai bedd ei phriod serchog a fyddai . Pa fodd y gallasai ddyfalu fod calon wedi ei chyffroi, gan gariad Duw, o dan wisgoedd uchelwych un o'r barnwyr hyn ? A phan gyfarfyddodd Syr Matthew Hale ar ol hyny â'r eurych dirmygedig a'i wraig wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd mwy prydferth yn nhrigfanau gwynfyd , mor fawr a fyddai ei syndod ! Dysgai y barnwr dysgedig yn awyr-gylch bur y nefoedd, fod gogoniant wedi llewyrchu o gell dywell carch ardy Bedford , oedd yn arddangos gras Duw yn berffeithiach, ac a wnai fwy o ddaioni i ddyn nac a allai holl esgobion a barnwyr y deyrnas gyda eu gilydd ei gwblhau .

Fel hyn y gadawyd Bunyan mewn cyflwr gresynol ac anobeithiol o garchariad, ac yn y cyflwr hwn y parhaodd am ddeuddeng mlynedd a hanner. Mor gynted ag y cafodd ei arfau i drefn dechreuodd weithio, ac y mae genym dystiolaethau o'i ddiwydrwydd gan Mr. Wilson, gweinidog duwiol a garcharwyd yn yr un lle, a Charles Doe, yr hwn a ymwelodd ag ef. Dywed yr olaf : “ Pan yn ngharchar, yr wyf yn dyst fod ei ddwylaw ef wedi gweini i'w angenrheidiau ei hun a'i deulu, trwy wneyd canoedd o sypiau o gareiai pwyntiog ( tagged laces ). Gwelais ei lyfrgell yno hefyd, y leiaf, ond er hyny yr oraf, a welais erioed - Y Beibl a Llyfr y Jerthyron. Ac yn ystod ei

garchariad ysgrifenodd amryw o dracthodau buddiol, yn neillduol, Y Ddinas Santaidd ; Ymar weddiad y Cristion ; Yr Adgyfodiad oddiwrth y lleirw ; a Gras yn Amlhau i'r penafo bechaduriaid .” Heblaw y traethodau gwerthfawr hyn, dywed Charles Doe ei fod yn gwybod i Bunyan ysgrifenu y rhan gyntaf o Daith y Pererin yn y carchar, ac iddo glywed hyn o'i enau ef ei hun . Da y gailasai Mr. Doe ofyn, “ Beth a gafodd y diafol a'i offerynau trwy daflu ein hefengylwr enwog i garchar ?” Rhwystrasant ef i bregethu i ychydig o bererinion tylodion yn y pentrefi oddiamgylch i Bedford, a bu hyn yn foddion i ledu ei glod, a gwybodaeth o'r efengyl trwy'r byd.

At y gweithiau uchod — ffrwyth ei garcharial - gellir ychwanegu Darlun o Iachawdwriaeth a Damnedigaeth ; Y Pedwar Peth Diweddaf, pryddest ; Myfyrdodau yn y Carchar, pryddest ; Mynydd Ebal a Gera: im ; neu , Brynedigaeth od :liwrth y Felldith , pryddest ; Cyfiawnhad trwy Fjydd yn Iesu Grist ; Cyffes o'i Ffydd,a Rheswm am ei Ymarweddiad ; Myfyrdodau buddiol, mewn ymddyddan chung Crist a Phechadur. Ond ei draethawd hynotaf a gyhoeddwyd yn fuan iawn

XV