Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

COFIANT JOHN BUNYAN ,

wedi dechreu ei garchariad. Profodd yma fod ofn Duw yn ei galon wedi llyncu i fynu ofn dyn. Hwn oedd ei draethawd ar y mater tra phwysig o weddi, seiliedig ar y geiriau— “ Mi a weddïaf â'r ysbryd, ac a weddïaf â'r deall hefyd.” Yr oedd wedi ei rybuddio gan y Barnwr Keeling i ochel llefaru yn anmharchus am y Llyfr Gweddi Cyffredin , ac os gwnai, y dygai ddrygfyd mawr arno ei hunan. Ond yr oedd Bunyan wedi ffurfio ei syniad am weddi oddiwrth brofiad ei galon ; mai cri y pechadur llwythog suddedig ydyw , - “ Arglwydd, cadw fi, darfu am danaf ; ” neu fawl yn dyrchafu o'r galon at orsedd gras yn llawn o obaith maddeuant ac anfarwoldeb . Ac felly, yn ol ei farn ef, yr oedd unrhyw ffurf o ddyfais ddynol, yn ymyraeth â natur gweddi, ac â gwaith yr Ysbryd Santaidd. Ac er gwaethaf bygythion y barnwr, dyma y syniadau a amddiffynid ganddo yn ei draethawd hwn.

Yr ydym yn ddyledus i Dr. Cheever am ddarlun prydferth o Bunyan yn ei gell. “ Y mae hi yn brydnawn ; cwblhaodd y gwaith sydd i'w gymeryd adref gan ei hoffus blentyn dall. Darllena gyfran o'r Ysgrythyr, a chan wasgu ei dwylaw bychain yn yr eiddo ei hun, penlinia ar y llawr ceryg oer,, a thywallta ei enaid wrth Dduw. Yna, gyda chusan ymadawol, gollynga hi at ei mam. Y mae y lamp annghelfydd yn goleuo yn wanaidd ar y bwrdd, lle yr oedd ei Feibl, ei bin a'i bapur, ac y mae yntau yn ymroi i ysgrifenu fel pe byddai llawenydd yn ei orfodi i wneyd. Y mae ei wyneb yn dysglaerio megys oddiwrth furiau jaspis pelydrog y ddinas nefol. Y mae yn plethu ei ddwylaw, yn edrych i fynu, ac yn bendithio Duw am ei ddaioni. Yr olwg ddiweddaf a gewch arno ydywmei hunan yn penlinio ar lawr ei garchardy-y mae ei hunan gyda Duw . ”

Ei gofrestr ei hunan am yr hyfrydwch a fwynhaodd tra yn y carchar ydyw , fod ei draed yn sefyll ar Fynydd Sion ; tra yr oedd ei gorff o fewn cloiau a bolltau, bod ei feddwl yn rhydd i fyfyrio am Grist, ac wedi ei ddyrchafu uwchlaw y ser. Nis gallai ei gadwynau ei gadw rhag dal cymundeb â Duw. Po mwyaf yr oedd ei elynion yn cynddeiriogi yn ei erbyn, mwyaf yn y byd a brofai efe o dangnefedd yn ei ysbryd. Yn y carchar, derbyniodd ymweliadau oddiwrth saint ac angelion, ac oddiwrth Ysbryd Duw. “ Yr wyf wedi bod yn alluog i chwerthin ar ddinystr," meddai, " gan ofni na'r march na'i farchog. Cefais olygiadau melus ar faddeuant o'm pechodau yn y lle hwn, ac o'm preswyliad gyda Christ mewn byd arall.” “ Pe tyllid fy nghlustiau yn y rhigod ” (pillory), meddai mewn lle arall, “ ni byddai hyny ond lle ii grogi gem arno." Mor ddieithriol yr ymddangosai i'r bydol -ddyn moethus ar ei wely man-blu, a'i galon yn gûr, glywed am ddedwyddwch odiaeth carcharor Crist ar ei wely gwellt ! “ Pan y bydd Duw yn cyweirio y gwely," medd Bunyan ei hun, “ y mae yn rhaid mae esmwyth fydd yr hwn a orwedd arno ; gobenydd bendigedig fydd gan hwnw dan ei ben, er iddo ymddangos i bob edrychwr cyn galetted a'r gareg.” Yr oedd ei ymborth yn cael ei gyfleu iddo bob dydd, a'r cyfryw ydyw y parch gyda pha un y mae ei goffadwriaeth wedi ei berarogli, fel y mae y llestr yn yr hwn уy dygid ei botes i'r carchar wedi ei gadw yn ofalus hyd heddyw.

Yn nghanol ei holl ddyoddefiadau ni rwgnachodd ac ni fynwesodd ysbryd dialgar am foment -gadawodd ei erlidwyr yn nwylaw Duw. “ Saf draw , Gristion, a thosturia wrth y truan tylawd sydd yn dwyn arno ei hunan ddialedd Duw . "

“ Pan ymwelais ag ef yn ngharchar," medd Mr. Doe, “ yr oedd yno oddeutu triugain o ymneillduwyr heblaw ef, a dau weinidog enwog—Mr. Wheeler a Mr. Dun - fel yr oedd y carchar wedi ei orlenwi ; eto yn nghanol yr holl ddwndwr a achlysurwyd gan gynifer o ddyfodiaid newydd, clywais Mr Bunyan yn pregethu ac yn gweddio gyda'r fath ysbryd ffydd, a'r fath ymddiried hyderus yn nghymorth Duw , a barodd i mi sefyll a synu.” Yma caent ganu heb ofn i neb eu clywed ; nid oedd yno un achwynwr yn gwib-hela o gwmpas. Yr oedd y byd wedi ei gau allan, ac mewn cymundeb â Duw gallant annghofio eu gofidiau, a mwynhau blaenbrawf u ogoniant annirn

xvi