Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

COFIANT JOHN BUNYAN .

adwy y ddinas nefol. O dan yr amgylchiadau hyn y traddododd Bunyan un o'i bregethau mwyaf hynod, yr hon a gyhoeddodd ar ol hyny dan yr enw Y Ddinas Santaidd ; neu , Y Jerusalem Newydd -ei muriau anorchfygol, a'i phyrth o feini gwerthfawr, heolydd auraidd, dwfr y bywyd , a'i them ), a'r prynedigion o bob cenedl yn ymdyru iddi.

I garchariad Bunyan y mae y byd yn ddyledus am yr hanes rhyfeddaf o adenedigaeth pechadur a welwyd erioed. Yn y carchar yr ysgrifenodd Gras yn Amlhau i'r penaf o bechaduriaid . Dengys yn y rhagymadrodd i'r traethawd hwn y dyddordeb dwfn a deimlai yn llwyddiant ysbrydol y rhai a ddychwelwyd dan ei weinidogaeth. Y mae yn llawenhau yn eu dedwyddwch, hyd yn nod pan oedd ef ei hun “ yn glynu rhwng dannedd y llewod yn yr anialych . Yr wyf fi eto o ffau y llewod, ac o fynyddoedd y llewpardiaid yn arolygu pob un o honoch, gan hiraethu yn fawr eich gweled yn cyraedd yn ddyogel yr hafan ddymunol.”

Y mae pob un sydd yn gynefin a helyntion Cristion yn rhwym , wrth ddarllen Gras yn Amlhau, o gael ei daro gan y tebygolrwydd sydd ynddo i'r pererin ; po mwyaf y creffir ar y'ddau ddarlun, mwyaf yn y byd y gwelir o debygolrwydd rhyngddynt. Y mae un yn adroddiad syml o ffeithiau, a'r llall yn cynwys yr un ffeithiau mewn alegori. Fel hyn, trwy gynhyrfiad anwrthwyn ebol o'r nefoedd ar feddwl carcharor dros Grist, y dysglaeriodd goleuni o gell ar bont Bedford sydd wedi effeithio mewn rhan i oleuo y byd. Y mae Taith y Pererin wedi ei gyfieithu i'r rhan fwyaf o ieithoedd a changhen -ieithoedd y ddaear. Y Coffrëariad a'r Hottentot, y Groegiaid a'r Hindoo goleuedig, y genedl Hebreaidd, y Malead creulon, a'r Chinead moethus - gall pob un ddarllen y llyfr rhyfedd hwn yn ei iaith ei hun !

GWRaLG BINYAN O FLAEN Y BARNWR HALI

xvii

a