Gwirwyd y dudalen hon
Gan wragedd gweddwon llymion
Mewn llawer parth o'r tir.
Madawodd tadau tyner
Au tai 'n gysurus iawn,
Gan feddwl yn y bore
Dd'od gartre' y prydnhawn;
Eu mheibion yn eu hymyl,
Yn fywiog ac yn llón,
Heb ofid yn terfysgu,
Nac yn pruddhau eu bron.
Ansicr iawn yw iechyd
A bywyd dynol ryw;
Gyd-ddyn, o bob rhyw oedran,
'N ddifrifol gwrando, clyw!
Trwm na b'ai 'r holl rybuddion
A gawn o hyd—o hyd,
Yn enill mwy o sylw
At bethau'r bythol fyd.
Trwm iawn oedd gwel'd tad yno,
Yn gelain yn y lle,
A meibion, dri neu bedwar,
Yn gorwedd gydag e';
O fam! trwm, prudd yw' th galon
Wrth wel'd dy briod cu,
A'th feibion felly 'n galw
Am le'n y ddaear ddu!!
Boed Ffynon pob daioni,
Yn nawdd i'r gweddwon prudd
Yn gysgod i'r ymddifaid
Y byddo nos a dydd;