Ar y chweched dydd o Chwefror,
Ar ddydd Iau, O hynod ddydd
Cofio wneir y diwrnod hwnw
Tra yr haul oleuni rydd;
Gyda gwawr y boreu gwelir
Rhiant mwyn yn myn'd i'w gwaith,
Rhai a welwyd, eto nis gwelir
Byth mwy'n teithio bywyd daith.
Gadael wnaeth y boreu hwnw
Tlysion fechgyn gartref clyd,
Er drwy chwys eu gwyneb enill
Gonest damaid yn y byd;
Ond ysywaeth, dygwydd ddarfu
Yn Mhwll Llanerch ffrwydriad erch
A wahanodd yn ddisymwth
Rhiaint anwyl, mab a merch.
Rhwng wyth a naw o'r gloch y boreu
Crynu wnaeth y ddaear gron,
Bollt fel taran a drywanodd
Nes creu dychryn yn mhob bron;
Gwelwyd yn y fan yn fuan
Gwragedd teg â gruddiau prudd,
At y pwll yn myn'd yn ddiball
I gael gwybod beth y sydd.
Buan, buan gawd y newydd
Gwir alarus, erchyll, trwm,
Cant ac wyth deg o gyrff meirwon
Gafwyd yn y gwaith glo hwn;
'Chydig oriau 'nol fe'u gwelwyd
Yn llawn bywyd, cysur, hedd,
Ond yn awr yn dawel ddigon
Yn eu bychain briddlyd fedd.
Nis gall awen y beirdd goreu
Dynu darlun teg a gwir
O'r olygfa a'r ochneidio
Oedd uwchben y pwll ar dir;—
Ieuainc blant oedd yno'n llefain—
Mamau teg â'u dagrau'n lli'—
Rhai ni fynent eu cysuro—
Gormod gwir y ddamwain fu.
Tudalen:Tanchwa ofnadwy yn Abersychan - 180 wedi eu llad; Terrible explosion at Abersychan, 180 lives lost (IA wg35-2-4675).pdf/2
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon