Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tanchwa y Mardy - Mercher, Rhagfyr 23, 1885; 80 wedi eu lladd (IA wg35-2-4870).pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhwygwyd ben y pwll yn ddarnau,
Chwalwyd y ffenestri'n fyrdd,
Mor ddynystriol oedd y nwyon
Ddaeth yr adeg hon'on rhydd.

Torf rhuthrasant o'u honedd-dai
A chyfeirient at y fan,
Lle ymdreiddiau'r swn ofnadwy
A'u calonau'n curo'n wan;
Pryder oedd yn gwelwu'n gruddiau
Llawn oedd eu meddyliau hwy
Pawb yn brysio am y cyntaf
I gael gwybod maint eu clwy!

Dacw'r cyrph yn dod i fyny,
O'r fath olwg arnynt sydd,
Pwy all beidio dal heb deimlo'r
Dagrau'n treiglo dros ei rudd;
Gwel'd y mam yn gwyllt gofleidio
Ei anwylfab yn olosg ddu;
Gwraig a'i dagrau'n golchi gruddiau
Duon llosg ei phriod cu.