Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tanchwa y Mardy - Mercher, Rhagfyr 23, 1885; 80 wedi eu lladd (IA wg35-2-4870).pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Eraill a fwriadent fyned
I fwynhau eu dydd ynghyd,
Ond eu holl gynlluniau dd'ryswyd,
Y mae'nt hwy mewn arall fyd!

Duwch daenwyd dros Gwmrhondda,
A thros sir Forganwg lan,
Aeth y son drwy'r sir fel trydan
Am yr erchyll elfen dan;
Bu y gwyliau hyn yn wynan
Trist, i lawer mam a tad,
Am fod yn y teulu olion
Am y danchwa erch a'i brad.
Dyma rybydd i ni eto

I ni fod yn barod pan ddaw'r awr
I ni fyn'd heb byth ddychwelyd
O fro tragwyddoldeb mawr.
Ceisiwn nodd rhag dialydd,
Mynwn fan i bwyso'n pen,
Fel y gallwn ddweyd wrth farw,
Myn'd i'r Nef a wnawn.
Amen.