Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bel, a'i holl hiliogaeth, na waeth ganddynt yru ar draws dynion, na pe gyrant ar draws llyffaint; ac nis gwyddwa pa un ai o'n blaen, ai o'm hol yr oedd y perygl mwyaf, ond aethom yn ein blaenau heb gael dim niwed, trwy filoedd o drigolion, oeddynt yn gwibio yn ol ac yn mlaen yn ddiorphwys. Ha! eba ti ynwyf fy hun, nid mor hawdd yw hwylio drwy heolydd Llynlleifiad ac y dychymygais i y boreu cyn codi o'r gwely, ac wrth sylwi ar y fath gyniwair parhaus oedd byd yr heolydd mawrion, ceisiais gyfansoddi tri neu bedwar o englynion fel hyn:—

Trigolion sy'n gwau trwy 'u gilydd,—gwibiant
Fel gwybed aflonydd;
Trwst didawl, arswydawl sydd,
Yn manu ar ein menydd.

Gwibiedig feirch a cherbydau—echrys,
A ddychryn galonau;
Mewn cymysg, derfysg didau,
Dyrwygant megys dreigiau,

Yn mlaen a'r meirch mileinig,—er gweled
Rhai gwaelion methiedig,
Ar eu traws mewn dygnaws dig
Y gyran fel mân gerig.

Gwelais fod achos gwylio,—yn fanwl
Gan fynych graff dremio,
Rhag cael gen rwygwyr o'u co,'
Un adeg fy niweidio.

Oud beth bynag cyrhaeddais i a fy arweinydd, drwy y dorf, a'r twrf, a'r terfysg mawr, yn lled rwydd ar y cyfan, i dŷ fy mab, ac yno y cymerais fy mhrif gartref, tra bum ya aros yn Llynlleifiad. Aethym y Sabbath cyntaf ar ol dyfod i'r dref, gyda fy mab Morris i gapel y Parch. Dr. Raffles, i wrando arno yn pregethu, ac i weled y gynulleidfa fawr a glywais son lawer gwaith am dani cyn hyny, a fyddai yn arfer dyfod yno i wrando, ac ni chefais fy siomi chwaith; yr oedd pregeth y Doctor yn gyson, ac yn efengylaidd, mor bell ac yr oeddwn i yn gallu ei deall, beth bynag, a'r gynulleidfa