Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn canu yn soniarus, ac yn rheolaidd dros ben. Meddyliais yn y fan am y cantorion ardderchog oeddynt yn y deml fawr yn Jerusalem, yn amser Solomon, pan ydoedd yn ei goniant mwyaf, a theulu Asaph, a meibion Cora yn blaenori gyda y corau gogoneddus, a'u boll offerynau yn clodfori Duw Israel. Tybiwn fod y Salm hono yn cael ei rhoddi allan i'r gynulleidfa gan Solomon ei hun,

"Caereslem lân, ein dinas ni,
Ei sail sydd ynddi ei hunan;
A'i phobl sydd ynddi yn gytun,
A Duw ei hun, a'i drigfan."

Ac hefyd,

"Ewch, ewch o amgylch sion sail,
Ei thyrau adail rhifwch;
Ei chadarn fur, a'i phlasau draw,
I'r oes a ddaw, mynegwch."

Peth bynag, methodd fy nhymerau a dal heb dywallt dagrau o lawenydd, wrth wrando ar y gynulleidfa yn canu mawl, a meddyliais mor orfoleddus y bydd yn y baradwys nefol, pan fydd yr holl saint wedi dyfod at eu gilydd, i gyd ganu yr anthem dragwyddol i Dduw a'r Oen, heb un anwyldeb, na llesgedd yn eu plith am dragwyddoldeb. Pan ddaethum allan o'r capel, ac edrych ar yr adeilad prydferth, a'r lle iachus sydd o'i gwmpas, rhoddais yr enw newydd yma arno, sef "Paradwys Llynlleified", gan ei fod yn ymddangos i mi y lle prydferthaf yn yr holl dref fawr hono.

Ar ol i mi drigo ychydig o ddyddiau yn nhy fy mab Morris, darthum yn fuan yn gydnabyddus a rhai o ddeaconiad Capel Bethel, Bedford Street, sef Mr. Robert Price, Gas Works Mr. George Owen; a Mr. Edward Jones. Ond yn benaf oll, daethum yn gydnabyddus a'r Parchedig Thomas Pierce, gweinidog yr Eglwys Annibynol yn Bethel; cefais ganddo ef a'i wraig barchus dderbyniad croesawgar, a drws agored i alw pryd y mynwn, tra bum yn aros yn Llynlleifiad, a thybiwyf nad anghofiaf garedigrwydd a thiriondeb Mr. a Mrs. Pierce, a'u plant tuag ataf, "tra anadl yn troi