Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

14 Chwal anhwylder gwywder gau Sy'n aros ar synwyrau. Ffyniant i Ioseph anwyl, ymloned Aed yn mlaen a'i orchwyl; Am iechyd a hyfryd hwyl," Brysiwch yn llu i'w breswyl. Mr. Richard Parry, Islington, hefyd, a gefais yn gyf- aill caredig dros ben; ac wrth ganfod cymaint o'i gared- igrwydd a'i haelioni, gwnaethym yr euglya canlynol iddo: Gwr mwynaidd. puraidd yw Parri-cyfaill Gwucir cofio'i haelioni; Mae'n awr bum mil am wn i, Soniant am ei 'luseni. Mr. Thomas Owen a fu yn arweinydd a chyfaill car- edig i mi, a dywedais fel y canlyn am dano:- Y sywiol Thomas Owen-a gefais Yn gyfaill diabsen, Haeddai glod a bod yn ben Llywyddwr lle'r pwll addien. Cefais hefyd Mr. J. Lloyd, yr Argraffydd, a'i deulu, yn gyfeillion caredig a chroesawgar; ond gwell i mi ym- attal bellach, o herwydd fod yn Llyulleifiad lawer o ugein- iau o gyfeillion parchus a ddangosasant eu caredigrwydd a'u hewyllys da i mi tra bum yn aros yn eu mysg. Pe bawn yn eu henwi o un i un, chwyddai fy ysgrifi gryn gyfrol o faintioli. Ond i fod yn fyr, ar ol i mi ddyfod yn gydna- byddus ag amryw gyfeillion caredig yn y dref, aethym i weled rhai o'r rhyfeddodau mawrion a ganfyddir mewn am- rywiol fanau yno a'r cwmpasoedd; sef y llongau mawrion a bychain oeddynt yn angori ar afon Mersey, ac ereill yn y dociau-tybiwyf fod yno filoedd o honynt o bob maintioli, yn ddigon a pheri i ddyn dyeithr fel fi feddwl fod holl long- au y byd wedi cael eu crynhoi yn nghyd at eu gilydd-eu bod yn un o brif ryfeddodau y greadigaeth fawr. Wedi i mi dremio ar y llongau am gryn yspaid o amser, aethymi edrych y Gasworks, a'r ermygau llifio, a'r Waterworks, a gweithfa y deillion o'r ddau ryw, sef bechgyn a genethod Digited by Google