Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oeddynt yn dysgu gwneyd pob math o gywreinwaith yn hynod o gampus (yn ol fy marn i), Yna aethym i weled danghosfa pob math o fwystfilod, pysgod, ac adar o bob rhywogaeth. Nid oes diwedd, bron, ar ryfeddodau Llynlleifiad. Ond i beidio a bod yn rhy faith;—wedi i mi dreul— io rhai misoedd yn Llynlleifiad, arfaethais fyned i Mancenion i ymweled â fy mab Evan a'i deulu. Cychwynais o'r Station ryw foreu efo'r ail Drain, a chyda iddo bron symud dyma fi wedi myned i le mor dywyll a thywyllwch yr Aipht am a wn i. Hynod mor ddisymwth y daeth y cyfnewidiad, bron ar darawiad llygad o'r goleuni i'r tywyllwch. Dyna lle yr oeddwn yn llechu ac yn myfyrio, gan ddysgwyl bob eiliad cael dyfod i'r goleuni; ac yn mhen y pum munud dyma M. mewn tir goleu. Yna gwaeddais allan yn iaith y Saeson, Now, Gentlemen, we have come out of darkness, and we are born again. Yn cyfansoddais yr englynion canlynol yn ddioedi:—

Mawl i Dduw am oleu ddydd,—'rwy' weithian
Yn wr eithaf dedwydd;
Yr ager yw'r cry' rwygydd,
Tan y ser i'n tynu sydd.

Tanio wnel i'n tynu ni,—a llamed
Yn llymach na milgi;
Cyrhaedd i dref y cawri,
Mewn un awr ddymunwn i.


Ac yn mhen awr a chwarter yr oeddwn wedi cyrhaedd i Manchester Station. Daethym allan o'r caban ar ffrwst, a chyflogais rhyw Wyddel i'm cynorthwyo i gario fy ysgrepan, a'm cyfarwyddo i dy fy mab yn Hulme. Cefais dderbyniad croesawgar ganddo ef ac Elizabeth fy merch-yn-nghyfraith, ac yno y cartrefais tra bum yn Mancenion. Aethym boreu Sabboth gyda fy mab a fy merch-yn-nghyfraith i gapel y Parchedig Robert Evans (Trogwy o Fon), i wrandaw arno yn pregethu, a chefais lawer iawn o gyfeillach âg ef tra yr arosais yn Mancenion. Bu yn arweinydd ffyddlon i mi at gyfeillion ereill drwy yr holl dref fawr bron i gyd. Gan iddo fod mor garedig a chy-